Dwylo Glan y Democratiaid
Mae Peter Black wedi ymateb ar ei flog i'r sylwadau gen i rhai dyddiau yn ôl ynglŷn a'i daflen ddiweddar. Peidiwch becso does dim rhaid mynd nol dros bopeth i ddeall y ddadl! Barnu wnes i fod Peter wedi awgrymu bod gweithio'n galetach yn ateb i broblemau'r blaid a bod 'na fawr ddim newydd nac unigryw yn ei neges wleidyddol. Mae Peter yn ymateb trwy ddweud hyn;
“Originality was not one of the virtues that I have ever claimed for this pamphlet. In fact I published it with the express intent of starting debate by setting out very much where the Welsh Liberal Democrats stand at present both in terms of political position and policy.”
Digon teg. Mae Peter yn mynd yn ei flaen i amlinellu pump maes lle mae'n credu y dylai'r blaid ganolbwyntio ei hegnïon. Mae'r rhaglen a gynigir ganddo yn un sy'n berthnasol i ofidion pobol Cymru ac yn llwyddo i fod yn radicalaidd heb fod yn afresymol o uchelgeisiol. Y broblem yw canfod beth yn union sydd yn gwahaniaethu'r weledigaeth yma o raglenni pleidiau'r Glymblaid? I ddefnyddio'r term marchnata beth yw'r “Unique Selling Point”?
Efallai, wrth gwrs, nad oes angen USP. Os ydy “Llywodraeth Cymru'n Un” yn llanast neu'n fethiant gallai dwylo glan fod yn ddigon.

Golygydd Materion Cymreig y BBC yn blogio'n rheolaidd ar faterion gwleidyddol Cymru. 

SylwadauAnfon sylw
Colli Maldwyn, Brycheiniog a Maesyfed a Cheredigion mewn un etholiad. Be di'r ods yn y bwcis ?
Cytuno mae absennoldeb "USP" clir yw ran o'r broblem i'r Lib Dems. Mae Peter yn amlwg yn trio ffurfio un ond edrychwch ar hyn:
"In the area of social justice we should concentrate on removing the barriers that prevent people fulfilling their potential including inaccessible health care, bad housing conditions, a poor environment, inadequate educational achievement and lack of training. We need to create opportunities for those individuals by putting in place a support structure that will enable them to grow. This will include better child care, preventative health measures and the ability to access education and training without a punitive financial burden being imposed on them."
Pa blaid sydd ddim yn cytuno gyda hwn neu'n ymgyrchu arni? Un o 5 awgrymiadau Peter Black yw e, ond beth sy'n gwahaniaethu hwn o safbwynt y tri prif blaid arall?
Efallai "cyflawni" meddai rhai ;)