Clecs
Fe fydd Plaid Cymru yn cyhoeddi enw ei phrif weithredwr newydd wythnos nesaf. Y ddau enw sy'n cael eu crybwyll yw Gwenllïan Lansdowne a Geraint Day.
Fe fydd yr etholiad cyngor yn ward Glanyrafon yn Nghaerdydd yn ddifyr os mai Gwenllian sy'n cael ei dewis. Mae hi eisoes yn gynghorydd yn y ward tra mae Mark Drakeford SPAD Rhodri Morgan wedi ei ddewis fel ymgeisydd Llafur.
Dyw hi ddim yn erbyn y rheolau i SPAD sefyll mewn etholiad lleol ond disgwylir i fe neu hi “ymddwyn yn gymedrol a gochel rhag ymosodiadau personol”. Dyw hynny ddim wastad yn hawdd yng nghanol berw etholiad!

Golygydd Materion Cymreig y BBC yn blogio'n rheolaidd ar faterion gwleidyddol Cymru. 

SylwadauAnfon sylw
Mwy o glecs rhaid i ti ohebu - neithiwr, cafodd Hywel Williams AS ei ethol yn unfrydol fel ymgeisydd Plaid Cymru am sedd newydd Arfon yn yr etholiad cyffredinol DG nesaf.