LINCS
Yn anffodus rhywbeth a ddyfeisiwyd ar ôl fy nyddiau i oedd y syniad o “gap year”. Dw i'n eiddigeddus. Dw i ddim yn nabod Dafydd Llŷr Pearson o Aberystwyth ond mae e wedi treulio'r flwyddyn ddiwethaf yn teithio'r byd gan ddysgu yn Japan cyn symud ymlaen i Awstralia, Seland Newydd a'r Wladfa. Mae ganddo gasgliad gwych o luniau ar Flickr yn enwedig rhai Patagonia. Mae e hefyd wedi cadw dyddiadur ar-lein.
Dw i wedi lincio droeon i'r Blogiadur safle lle mae'n bosib darllen popeth bron sy'n cael ei bostio yn y blogfyd Cymraeg. Yn ddiweddar sefydlwyd BlogCymru safle sy'n gwneud yr un peth ond yn cynnwys blogs gwleidyddol Saesneg eu hiaith. Mae'n hynod ddefnyddiol. Gyda llaw gwnes i ddim crybwyll hyn o'r blaen rhag ofn i bobol feddwl fy mod i'n canfasio ond mae enillwyr gwobrwyon blogio Cymru yn cael eu dewis ar hyn o bryd.

Golygydd Materion Cymreig y BBC yn blogio'n rheolaidd ar faterion gwleidyddol Cymru. 

SylwadauAnfon sylw
Diolch am son amdanaf ar y blog!
Ma´r wefan ychydig tu ol yn bresennol, dwi yn Bolivia ar hyn o bryd, dym ond rhyw bythefnos o´r daith sydd ar ol nawr cyn mynd nol i Aberystwyth heulog :)
Diolch unwaith eto!