Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Un tro bach olaf

Vaughan Roderick|19:08, Dydd Iau, 19 Gorffennaf 2007

Roeddwn i'n gwybod y byddai na un tro bach arall. Amser cinio cawsom wybod aelodau'r llywodraeth newydd. Yn eu plith roedd Carwyn Jones y "Cwnsler Cyffredinol, Arweinydd y Tŷ a Gweinidog Busnes". Dyna union eiriau'r datganiad swyddogol.

Fel y nodais yn gynharach roedd hi'n ymddangos bod hynny yn groes i Fesur Llywodraeth Cymru. Gesiwch beth. Mae Carwyn wedi colli ei job fel "gweinidog busnes"- neu'r teitl o leiaf! Efe fydd yn gwneud y gwaith o dan y teitlau eraill ond yn swyddogol ac yn gyfreithiol fydd e ddim yn weinidog. "Camgymeriad bach" yn ôl rhyw un a ddylai wybod.

Dyna ni felly. Fe fyddaf yn blogio yn achlysurol yn ystod yr Haf felly galwch heibio. Roedd atebion Darren i'r cwis yn gwbwl gywir, gyda llaw.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.