Hedd perffaith hedd
Mi ydyn ni'n bobol wareiddiedig yma yn BBC y bae. Nid trafod politics yn unig mae gweithwyr Uned Wleidyddol BBC Cymru. Big Brother, ffwtbol, Take That, mae gennym ni arbenigwyr ar bopeth yn fan hyn. Trafod barddoniaeth yr oeddem y prynhawn yma, yn fwyaf arbennig ffawd rhyfedd Hedd Wyn.
Taith Ieuan Wyn Jones i Ypres i goffau brwydr Passechendaele sbardunodd y sgwrs a'r her yma gan un aelod o'r uned "Ac eithrio 'Dim ond lleuad borffor...' oes unrhyw un yn gallu dyfynnu un gair o waith Hedd Wyn?" Och gwae ni! Roedd pawb wedi gweld y ffilm, y rhan fwyaf ohonom yn gyfarwydd â’r englynion coffa ond gwaith y dyn ei hun? Dim un englyn, un cwpled, un llinell hyd yn oed.
Mae'r rhyngrwyd yn gwneud hi'n hawdd cyweirio'r sefyllfa a gellir darllen gwaith "y bardd trwm dan bridd tramor" yn fan hyn. Mae'n werth gwneud. Cefais flas arbennig y gerdd fach hon sy'n addas ar gyfer diwrnod cofio cyflafan Fflandrys.
NID oes gennym hawl ar y sêr,
Na'r lleuad hiraethus chwaith,
Na'r cwmwl o aur a ymylch
Yng nghanol y glesni maith.
Nid oes gennym hawl ar ddim byd
Ond ar yr hen ddaear wyw;
A honno syn anhrefn i gyd
Yng nghanol gogoniant Duw.

Golygydd Materion Cymreig y BBC yn blogio'n rheolaidd ar faterion gwleidyddol Cymru. 

SylwadauAnfon sylw
Troellog iawn yw llwybrau bywyd megis gwynt yr hwyr.
Pa le cludir ninnau ganddynt Duw yn yn unig wyr.
Gan Hedd Wyn ? - Mwy perthnasol pob dydd !