Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Lincs

Vaughan Roderick|16:25, Dydd Sul, 10 Mehefin 2007

Mae Mam yn dathlu ei phenblwydd yn wythdeg y penwythnos 'ma. Dim llawer o flogio gen i felly- ond mae na ddigon i ddarllen o gwmpas y we.

Mae Dwi eisiau bod yn Americanwr yn sbort. Blog yw hwn sy'n canmol yr Unol Daleithiau ac yn myfyrio am y posibilrwydd o "Batagonia newydd" yn yr haul. Mae un Patagonia yn hen ddigon i rai ohonom! Mae Silurian yn byw yn yr Unol Daleithiau ac yn blogio ynghylch gwleidyddiaeth a chrefydd y wlad honno yn ogystal a Chymru fach.

Blog cymharol newydd arall yw Petha' bach sydd wedi cychwyn yn arbennig o dda er cymaint trafferthion cyfrifiadurol yr awdur. Mae ei ddisgrifiad o'r problemau hynny yn sicr yn taro deuddeg i bobol fel fi sy'n byw ar drugaredd NTL!

Mae Ansicrwydd yn flog eclectig sydd yn sicr werth ei ddarllen. Felly hefyd Sanddef wrth gwrs. Mae ei bost diweddara yn cynnwys dychan llawer rhu agos i adref ynghylch y frwydr iaith yng Ngwlad y Basg.

Fe ddylech chi wybod erbyn hyn mai'r lle i weld y blogs Cymraeg i gyd yw'r Blogiadur.

SylwadauAnfon sylw

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.