Lincs
Gyda'r holl brysurdeb mae'n beth amser ers i mi bostio ychydig o ddolenni i'ch difyrru. Mae gan Simon Jenkins erthygl ddifyr iawnn ynglŷn â'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru a'r Alban ar wefan y Guardian.
Mae'n bosib ail-fyw cyffro etholiad Ceredigion ar flog Rhys Llwyd
Mae 'na goblyn o ddadl ar Faes E. Ynglŷn â beth? Ewch i fan hyn i ganfod yr ateb.
A fydd eich cartref chi yn diflannu oherwydd newid hinsawdd? Dyma'r lle i gael gwybod.

Golygydd Materion Cymreig y BBC yn blogio'n rheolaidd ar faterion gwleidyddol Cymru. 

SylwadauAnfon sylw
Blimey! Dim ond 3m o wahaniaeth yn lefel y môr sydd ei angen i fy nhy i ddiflannu ... bechod na fyddai mwy o bobl wedi defnydio eu hail bleidlais i'r Blaid Werdd.
Mae'n gywilydd bod y BNP wedi llwyddo i gael dwy waith y pleidleisiau gafodd y Blaid Werdd
Mae Simon Jenkins yn berffaith iawn am be mae o'n ddeud am y RhDem, wast ar amser llwyr, ymddiheuriad am ddefnyddio gair Saesneg ond mae'r RhDem yn 'moribund'!!
Rhingyll - Pwynt da, ond gallet ddweud mai dangos fod syniadau y Blaid Werdd wedi cael eu 'dwyn' gan y pleidiau eraill, a nad ydynt wedi cyffwrdd a pholisiau ffiaidd y BNP.
Ond 'eternal vigilance..' fel mae'n nhw'n dweud.