Pwy sydd ar beth
Fe fydd Rhun ap Iorwerth yn holi Ieuan Wyn Jones ar Dragon's Eye am 10.35 heno ar BBC 1.
Fe fydd Dafydd Wigley, Jonathan Austin, Paul Davies a Juliana Hughes yn ymuno a Rhuanedd a finnau ar "Dau o'r Bae" yfory am 12.15 ar Radio Cymru. Wrth gwrs mae'n bosib gwrando eto.
Ddydd Sul, Alun Cairns fydd y prif westai ar Maniffesto. Andrew Davies, Dafydd Wigley, Alun Cairns a Mark Hooper fydd yn trafod yr economi ar y "Politics Show" ar BBC1.

Golygydd Materion Cymreig y BBC yn blogio'n rheolaidd ar faterion gwleidyddol Cymru. 

SylwadauAnfon sylw
Wrth gwrs, roedd IWJ ar Taro'r Post heddiw (Rhodri Morgan arno ddydd Mawrth) a bydd aelod o'r ddwy blaid arall arni wsnos nesaf yn ôl Dylan Jones heddiw.
Dwi'n synnu dy fod yn plygio rhaglenni Saesneg cyn y rhai Cymraeg Vaughan!
Digon teg! Plygio'r desgiau agosa atai oeddwn i. Mea culpa!