Lincs a manion
Mae Blamerbell wedi bod yn cael sbort yn googlio Mike German tra bod Sanddef wedi mynychu cynhadledd flynyddol Cymuned lle roedd Richard Brunstrom yn annerch. Dwi'n disgwyl ymlaen at ddarllen argraffiadau'r Prif-gopyn ei hun.
Ar ôl meistroli sut mae cael to bach (drychwch ar yr ô yna yn "ar ôl!"- dwi wedi chwysu peintiau i gael honna i weitho felly ô ô ô ô ô :) :) :) !) fe fyddaf yn cyhoeddi prisiau betio Karl Williams ar gyfer etholaeth Môn cyn bo hir. Hefyd yn y dyddiadur mae lansiad blaenoriaethau deddfwriaethol Llafur, ymdrechion gan Blaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol i ddenu pleidleisiau'r ifanc a rhagor am arolygon barn.

Golygydd Materion Cymreig y BBC yn blogio'n rheolaidd ar faterion gwleidyddol Cymru. 

SylwadauAnfon sylw
Efallai dylet ysgrifennu 'postyn' [?] am gath sian yn cael tal am ddwyn llygoden y wrach..
Ar y llaw arall...