Lincs
Mae Dylan Jones Evans yn disgwyl ymwelydd pwysig.
Diolch i Dogfael am dynnu sylw at flog Cymraeg newydd sef Blog Adrian Morgan mae'n disgrifio ei hun fel hyn; "Myfyriwr ymchwil ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth sy'n ymddiddori yn niwylliannau, ieithoedd a chrefyddau ein byd" ac mae'r diddordebau hynny'n amlwg ar ei safle.
Mae Gwenno, un arall o drigolion Aber, yn adolygu gig Gruff Rhys yn Nhreorci. Trwy gyd-ddigwyddiad ar y noson yr oedd Gwenno yn y Park & Dare roedd y theatr honno i'w gweld ar "Doctor Who" ond yn y rhaglen yn Efrog Newydd yr oedd hi a nid yn y cwm culach na cham ceiliog.

Golygydd Materion Cymreig y BBC yn blogio'n rheolaidd ar faterion gwleidyddol Cymru. 

SylwadauAnfon sylw
Mae'n anodd pwyntio allan blogs aelodau seneddol heb gwympo mewn i'r 'trap' o orfod canmol pob plaid arall.
Ond mae 'blog' Paul Flynn yn ddiddorol iawn, ac yn ddigri hefyd, mewn mannau..
https://www.paulflynnmp.co.uk/contact.jsp
[a na, nid wyf yn gweithio am y blaid Lafur, a nid wy'n 'convinced' fod Paul yn, weithiau..]