Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Coch a Gwyrdd- Llywodraeth nesa Cymru?

Vaughan Roderick|23:59, Dydd Llun, 23 Ebrill 2007

Buodd na briodfab a phriodferch fwy annhebyg erioed? Ar ôl treulio misoedd yn cyhuddo Plaid Cymru o gynllwynio i gefnogi clymblaid o dan arweinyddiaeth y Torïaid mae'n ymddangos bod Llafur nawr yn ystyried troi at y Blaid ei hun mewn ymdrech i barhau i lywodraethu.

Dwi'n cael ar ddeall bod Llafur Cymru yn ystyried ceisio dod i gytundeb â Phlaid Cymru os ydy hi'n colli ei mwyafrif. Mae ffynonellau sy’n uchel o fewn y Blaid wedi dweud wrtha i eu bod yn ystyried troi at Blaid Cymru am gefnogaeth yn hytrach nac at ei phartneriaid arfaethedig yn y Democratiaid Rhyddfrydol.

Deallaf fod Llafur wedi cael llond bol o'r hyn y maen nhw'n ystyried yn agwedd drahaus y Democratiaid Rhyddfrydol a'r ffordd y mae'r blaid honno yn cymryd yn ganiataol mae hi fyddai dewis cyntaf Llafur fel partner.

Yn ôl ffynonellau Llafur does 'na ddim posibilrwydd o glymblaid ffurfiol â Phlaid Cymru ond gallai rhyw fath o gytundeb rhwng y pleidiau fod ar yr agenda. Yn gyhoeddus mae Plaid Cymru yn mynnu ei bod yn fodlon trafod ac unrhyw un o'r pleidiau eraill ar ôl yr etholiadau a deallaf taw consesiynau polisi sylweddol ac nid seddi cabinet fyddai'r pris am gytundeb.



SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 07:40 ar 24 Ebrill 2007, ysgrifennodd Cai Larsen:

    Y gwir ydi bod rhaid i Lafur ystyried yr opsiwn os am aros mewn llywodraeth am nad yw'n glir os bydd ganddyn nhw a'r Lib Dems ddigon o seddi rhyngddynt i ffurfio llywodraeth ar Fai 4.

  • 2. Am 08:11 ar 24 Ebrill 2007, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Yikes, 'sterling work' Sherlock Roderick !! Roedd hwn yn werth aros amdano ! Ond roedd gweld y Blaid a'r Toriau yn rhoi ystyr newydd i'r geiriau 'unlikely bedfellows' yn bart o beth fyddau i yn galw y 'judicial fiction' sy'n rhaid i chi gredu i ddilyn ein gwleidyddiaeth ddyddiau yma.

    Fel credu fod Tony & Gordon yn ffrindiau gorau...

  • 3. Am 14:20 ar 24 Ebrill 2007, ysgrifennodd Carl Jenkins:

    Can't read the entry, Vaughn, due my inability to speak da lingo. I do know, however, that most people in the Party would not describe Carwyn Jones as an 'impeccable source', but more of a closet Nationalist with a clear leadership agenda.

  • 4. Am 14:48 ar 24 Ebrill 2007, ysgrifennodd Vaughan:

    Carl,

    Dim ond pedwar o bobol sy'n gwybod ffynhonellau amrywiol ys stori hon dwyt ti ddim yn un ononynt!

    Only four people know the sources for this story...and you're not one of them!

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.