Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Rhwng Y Lleni Ger Y Traeth...

Categorïau:

Hywel Gwynfryn|10:07, Dydd Gwener, 29 Mehefin 2012

Hei Ho Hei Di Ho,
Hywel Gwynfryn sy’ ‘ma ‘to.
Ddoe fe deithiais i Sir Benfro,
Lle roedd sipsiwn wedi campo.
Ifan Evans a Shan Cothi,
Efo’i phersonoliaeth ffrothi!
Ar ôl cyrraedd, yn ddioed
Cefais sgwrs ‘da Geraint Lloyd.

(Pwy ddudodd ei bod hi’n anodd ‘sgwennu barddonaieth safonol!)

Erbyn neithiwr, roedd y criw teledu, Ifan a Shan, a’r perfformwyr wedi cyraedd pentref glan môr Tudraeth, ac roedd yr olygfa ar draws traeth y Parrog i gyfeiriad yr Iwerddon yn odidog.

Tudraeth

Ar ôl sgwrs efo Geraint yn y prynhawn , sgwrs arall ar raglen Eleri Sion efo dwy oedd wedi ‘u gwisgo fel dwy sipsi - Lowri Evans, a Delyth Wyn o’r grwp Radwm, ac yn nes ymlaen, fe fuon nhw’n canu i’r gynuilleidfa sydd wedi bod yn dilyn taith y Sipsi bob nos ar S4C.

Ifan ar daith y Sipsiwn

Ac mae’r teithio’n parhau. Yr wythnos nesa’ fe fydda i mewn ‘cwr o fynydd’ ac wedi gosod fy mhabell ar faes Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen. Fe gewch chi’r hanes lliwgar, swnllyd, cyffrous, cerddorol o’r maes yn ddyddiol ar raglenni Nia a Geraint Lloyd.

A chofiwch os ‘da chi am sylw i unrhyw eisteddfod, gwyl, ffair neu garnifal, cysylltwch efo fi drwy ebost hywel@bbc.co.uk

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.