Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Clic! Dwbl Clic! A Dyna Ni

Categorïau:

Hywel Gwynfryn|12:57, Dydd Gwener, 12 Tachwedd 2010

Clic ydi enw ymgyrch ddiweddara'r BBC i berswadio pobol hŷn i fwynhau, yn
hytrach, nag ofni, eistedd o flaen y sgrin gyfrifiadurol, a dysgu sut i e-bostio, sut i
grwydro'r we fyd eang yn darganfod pob math o wybodaeth ddiddorol a hynny
drwy roi clic i'r llygoden fach lwyd!

Eisoes, mae rhai o bobl hŷn Cwm Gwendraeth wedi bod yn mynychu dosbarthiadau cyfrifiadurol sy'n cael eu trefnu gan Fenter Cwm Gwendraeth, a phan es i draw yno y noson o'r blaen,'roedd 'na griw da iawn wedi dod i'r dosbarth ar waetha'r tywydd garw, ac Alan Jones yn ei dysgu.

Alan Jones gyda dosbarth cyfrifiaduron Menter Cwm Gwendraeth

Moelwyn Morgan, cyn aelod o'r heddlu, Erica Samuel, cyn athrawes, ac Angela Jones, cyn prifathrawes Ysgol Mynydd y Garreg a fu'n siarad efo mi am y pleser a'r hwyl maen nhw'n ei gael yn dysgu sut i wella lluniau digidol drwy ddefnyddio'r cyfrifiadur.

Disgyblion diwyd y dosbarth cyfrifiaduron

Cofiwch eu bod hi'n ddiwrnod Plant Mewn Angen ddydd Gwener nesa' (Tachwedd 19), ac fe fydda i yng nghanol plant Ysgol Gymraeg Aberystwyth sy'n codi arian i Gronfa Plant Mewn Angen, drwy wisgo gwisg ffansi.

Os ydach chi'n codi arian a chael sylw ar Radio Cymru, ffoniwch 03703500500.

Ac os oes 'na stori leol sy'n haeddu sylw cenedlaethol anfonwch e-bost at
Hywel @bbc.co.uk
Fe ddaw'r fan a fi draw i'ch gweld chi.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.