Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Mam Cymru a'i phlant

Categorïau:

Hywel Gwynfryn|11:15, Dydd Gwener, 2 Gorffennaf 2010

hywel_mamcymru1.jpg

Primin Môn. Mae gen i go' plentyn o fynd yno i weld y ceffylau gwedd a'r gwartheg a'r defaid.

Y stondinau yn llawn llysiau a mêl, a'r beirniaid yn ei hetiau bowler du a'u cotiau gwynion. A dyma fi, bron i drigain o flynyddoedd yn ddiweddarach yn ôl ar gae'r Sioe mewn Gŵyl i bobol ifanc.

Gŵyl i roi syniadau i ieuenctid yr Ynys o'r cyfleoedd sydd ar gael yn y gweithle. Ynghanol y berw fe ddois i ar draws fy hen ffrind Ed Holden, sydd yn gallu creu sŵn offerynnau a rapio yn defnyddio dim byd ond ei geg a'i ddychymyg byw.

mon_chwaraeon.jpg

'Sgwn i a fydd o yng Ngŵyl Cefni sy'n cael ei chynnal ymhen yr wythnos yn Llangefni, fy nhref enedigol o dan gysgod y Town Hall?


Fyddwch chi yng Ngŵyl y Gwendraeth yn Nhrimsaran fory? (dydd Sadwrn Gorffennaf 3ydd)
Welai chi yno, oherwydd fe fydd Radio Cymru yn darlledu drwy'r pnawn. Ac mae Jonsi yn picio draw i'r Ŵyl yn Rhuthun hefyd.

Yr wythnos nesaf, fe fyddai'n dawnsio o gwmpas Maes Eisteddfod Ryngwladol Llangollen - efo meicroffon yn fy llaw wrth gwrs, Ydi, mae hi'n gyfnod prysur a chyffrous.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.