Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Ysgwyd llaw, 2009

Categorïau:

Hywel Gwynfryn|11:04, Dydd Iau, 6 Awst 2009

O'r diwedd - y diwedd!

Fis yn ôl ar raglen Eleri a Dafydd ar Radio Cymru, cefais sialens i ysgwyd llaw efo 2,009 o bobol cyn diwedd y 'Steddfod.

Tynnwyd llun o fy llaw, efo gwybodaeth am wefan Radio Cymru arni. A bore 'ma, ar stryd y Bala am chwarter i naw fe ysgwyddais law 2,009.

Ac roedd y llaw honno yn perthyn i John, Dolben.

hywel_john_dolben.jpg

Cychwynnodd y llawdriniaeth ym Marchnad Llanelli, ac o'r fan honno i Sioe Bancffosfelen, ac wedyn y Sioe Fawr yn Llanelwedd.

Erbyn i mi gyrraedd y Steddfod wythnos yn ôl, 'roeddwn i wedi dal dwylo efo mil o bobol ac fe ddiflannodd y mil a naw oedd yn weddill yn weddol gyflym wrth grwydro'r maes, a phobol yn gweiddi:


"Ew, mae'n debyg i law!" neu "Faint gaf i am hon mewn siop ail-law?" neu "Sut yda chi, yr hen law?" neu "Lle 'da chi'n mynd ar wyliau - Cross Hands?"

Diolch i chi am fod yn barod i ysgwyd llaw efo mi, a pheidiwch â synnu, os bydd yr ymgyrch yn parhau, gyda llaw...

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.