Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Gwefr yn Llanberis, cawl pys yn y Trallwng.

Categorïau:

Hywel Gwynfryn|11:29, Dydd Mawrth, 7 Hydref 2008

Cyrraedd pentre bach Llanber a mynd ar goll! Cyfarfod Jim ar y stryd a chael cyfarwyddiadau i ddod o hyd i Ysgol Dolbadarn, i gyfarfod Ralph Jones(79) a Len Jones (69), gan ei bod hi'n Ddiwrnod Pobol Hyn.

llanberis.jpeg

Gyda llaw ydi o'n iawn eu bod nhw wedi penodi hogan ifanc yn ei deugeiniau i fod yn Gomisiynydd Pobol Hyn, ac i ofalu am eu buddiannau nhw? Onid gwahaniaethu ar sail oedran ydi hynny? (medda' Victor Meldrew Gwynfryn!). Roedd Len wedi dwad a'i wyrion efo fo - Billy, Danny, Mari, Cerys a Cian, ac mi 'roedd o a Ralph yn enghraifft berffaith o sut i fynd yn hyn heb fynd yn hen. Yn wir, o bell, mae'r tebygrwydd rhwng Ralph a Clark Gable yn anhygoel.

Draw wedyn i gyfarfod Awel, sy'n gofalu am y Mynydd Gwefru. Fedar rhywun ddeud wrtha i pwy ddaru fathu'r enw? Arbennig! Gwell o lawer na Electric Mountain. Pwy bynnag oedd o mae o'n haeddu medal a dwy gryno ddisg gan Hogia'r Wyddfa.

Sgwrsio efo Awel yn y prynhawn, a chael holl hanes cyffrous y pwerdy, (a salad), cyn cychwyn o'r Llan yn y fan, am y Trallwng, a chyfarfod dau o gymeriadau'r dre y bore wedyn am sgwrs: Len Griffiths a Len Davies.

Y ddau Len!

Fe fuom ni'n browlan fel cawl pys - ymadrodd lleol am siarad yn ddi-stop. Wyddwn i ddim, gyda llaw, mai ystyr Trallwng ydi pwll budur, man corsiog. Dyna o lle doth y pool Saesneg, ac yna fe ychwanegwyd y gair Welsh, rhag cymysgu efo Poole yn Dorset. Ew! Tydwi'n swnio'n wybodus?! Ac yn wir efo'r holl deithio 'ma, fe ddaw rhywun i wybod dipyn golew am Gymru. Ar fy ffordd i Landudoch nesa, a wedyn ddydd Gwener, Maesteg.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.