Y Twf a'r Cadarnhau
Ein hadolygyudd, John Stevenson, yn pwyso a mesur y drydedd gyfrol mewn cyfres sy’n olrhain hanes y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghymru.
Adolygiad John Stevenson o Y Twf a'r Cadarnhau. Cyfrol 3: Hanes Methodistiaeth Calfinaidd Cymru. Golygydd J Gwynfor Jones. Gwasg y Bwthyn. £35.
Ymdriniaeth yw'r gyfrol hon o sut y llwyddodd enwad y Methodistiaid Calfinaidd i ennill statws a goruchafiaeth mor bellgyrhaeddol, erbyn diwedd Oes Victoria.
Yn ogystal ag ymdriniaeth ffeithiol o sut y daeth y byd mae'r nofelydd Daniel Owen yn ei ddisgrifio mor fyw i fodolaeth ceir yma hefyd gyfaddefiad digongonest fod hadau'r tranc darodd yr enwad yn yr ugeinfed ganrif wedi egino i raddau helaeth oherwydd goruchafiaeth y bedwaredd ganrif a'r bymtheg.

Is deitl y gyfrol raenus hon - y drydedd mewn cyfres arfaethedig o bedair - yw Y Twf a'r Cadarnhau, 670 o dudalennau gyda throed nodiadau defnyddiol i'r sawl sydd am gloddio ymhellach yn ogystal â mynegai a llyfryddiaeth sylweddol.
Mae cyfraniadau gan rai o brif arbenigwyr Cymru ym maes hanes crefydd: pobol fel Dr Densil Morgan yn trafod Cred ac Athrawieth’ Dr Robert Pope yn cloriannu safbwynt yr enwad ar faterion cymdeithasol, Parchedig Andrew Jones yn trafod y gwaith cenhadola’r Dr Erin White ynmynd i'r afael â'r gwaith addysgiadol wnaed gan yr enwad.
Mae pennod y Dr Goronwy Prys Owen yn hynod ddadlennol mewn mannau - ond y bennod sy'n trafod Diwylliant Gweledol y Methodistiaid yn un sydd wedi colli cyfle.
Manteisiodd y gyfrol o fod yn nwylo golygyddol yr Athro J Gwynfor Jones,cyn Athro Hanes Prifysgol Caerdydd
Un peth sydd yn taro dyn yn syth yw fod y Methodistaid yn haeddu cael eu galw yn Drefnyddion gan eu bod nhw yn bobol drefnus a’r enwad yn un a ddatblygodd gam wrth gam yn hytrach nag esblygu.
Mae geiriau bachog y Parch Elfed ap Nefydd Roberts yn dweud mewn un frawddeg yn y Cyflwyniad yr hyn sy'n cael ei ddarlunio yn y 670 o dudalennau:
"Newidiodd Methodistiaeth o fod yn brofiad," meddai, "i fod yn fudiad,i fod yn sect, i fod yn enwad."
A gwerth y gyfrol yw y modd y mae’n egluro sut pryd a phaham y digwyddodd y camau hynny. Sut y tyfodd clytwaith o gredinwyr yn cyfarfod mewn tai, beudai ac ysguboriau, i fod y mudiad crefyddol mwyaf grymus a phell gyrhaeddodd ei ddylanwad ers goruchafiaeth yr Eglwys Babyddol yng Nghymru'r Canol Oesoedd.
Wrth ddilyn y trywydd, mae'n amlwg bod yna sgwarnogod i'w codi.
Ond a oedd angen atgoffa'r darllenydd deirgwaith cyn Pennod 1 mai hon yw'r drydedd mewn cyfres y gwelwyd ei chychwyn ddeng mlynedd ar hugain yn ôl . . . yn ystod Saithdegau'r ganrif ddiwethaf!
Yn ei Gyflwyniad,dywed Llywydd y Gymanfa Gyffredinol, y Parchedig R O Roberts: "Nid tasg fechan oedd crynhoi dros ganrif o hanes ein Heglwys mewn un gyfrol"
Cwestiwn a godir gan ambell un yw, ai doeth oedd hyd yn oed mentro ar y fath dasg? O fod wedi darllen y gyfrol, gallaf ddweud heb unrhyw amheuaeth i’r fenter fwy na phrofi ei werth.
Ond wrth ddweud hynny mae’n werth gofyn hefyd; Ar gyfer pwy yr ysgrifennwyd y gyfrol? Yr ysgolhaid arbenigol? Yr aelod cyffredin? Ynteu unrhyw un sy'n ymddiddori mewn hanes diweddar?
Wrth ystyried hyn, daw un peth yn sicr iawn; ei bod yn hen bryd i'r enwadau yng Nghymru ymddihatru o’r difaterwch ynglŷn â hanes: difaterwch sydd wedi lapio amdanyn nhw fel clustog gysurus.
Bron iawn nad awn cyn belled ag awgrymu y dylid defnyddio'r llyfr fel cyfrol osod mewn dosbarthiadau derbyn, dosbarthiadau hyfforddi blaenoriaid ac yn sicr wrth baratoi pregethwyr a gweinidogion. Wedi'r cwbwl, heb wybod o ble y daethpwyd sut mewn difrif calon maegwybod ble i fynd nesaf.
Hanes o densiwn a thyndra rhwng 'Profiad' a'r 'Prifio' sydd yma ac mae arolwg J Gwynfor Jones ar gychwyn y gyfrol yn olrhain sut y llwyddodd yr egin enwad i oroesi tanbeidrwydd y blynyddoedd cynnar yn feistrolgar.
Blynyddoedd y torfeydd lluosog yn Y Bala a Threfeca gyda dynion a merched yn cerdded milltiroedd i glywed mawrion yr enwad yn pregethu.
Blynyddoedd gwewyr enaid Ann Griffiths ac yng ngeiriau Williams Pantycelyn, blynyddoedd yr oedd Howell Harrisyn "ddyn mewn twym ias. Yn llawn gwreichion golau tanllyd, O Drefecca-fach i maes."
Yn araf o ugeiniau'r bedwaredd ganrif arbymtheg pylodd y "gwreichion golau tanllyd" ac yn ei le, daeth Ffenics o'r lludw a phrifiant y Ffenics hwnnw yw maes llafur y gyfrol hon.
Mae dwy flwyddyn allweddol, 1811 ac 1823.
"Daeth newid pwysig i statws pregethwr," meddai Dr Goronwy Prys Owen, "yn 1811 pan ddechreuwyd neilltuo nifer ohonyn nhw i weinyddu'r sacramentau"
Camsyniad ydi meddwl fod y dynion gafodd eu hordeiniowedi eu neilltuo i fod yn bregethwyr gan mai gweinyddu'r Cymundeb oedd eu priod gyfrifoldeb.
Wedi'r Ordeinio, felly, roedd dosbarth ar wahân i gyflawni swyddogaeth oedd bron a bod yn offeiriadol.Cafwyd blas o pa mor neilltuol yn nyfyniad Goronwy Prys Owen o gofnodion Cyfarfod Blaenoriad yr Hen Gorff (1849)
"Mae Gweinidog Crist yn cymeryd ei le Ef wrth y Bwrdd. Mae'n ynganu'r geiriau yr ynganodd Ef. Mewn gair mae'r Gweinidog yn cynrychioli Crist yng ngweinyddiad y Sacrament."
Onid ydi'r safbwynt yna bron a bod yn Babyddol ac yn safbwynt cwbwl wahanol i honno gan yrHen Ymneilltuwyr Cymreig,sef Offeiriadaeth yr holl Gredinwyr? Ai corff Ymneilltuol/
Anghydffurfiol ydi'r Methodistiaid?
Enghraifft arall o'r tensiwn rhwng y profiad a'r prifio yw’r penderfyniad fod yr enwad newydd angen Cyffes Ffydd ac fel mae pleidiau gwleidyddol yn cyhoeddi maniffesto, dyna wnaeth y Methodistiaid yn 1821 ac mae ymdriniaeth DensilMorgan o'r digwyddiad allweddol hwnnw yn afaelgar.
Pwrpas y ddogfen oedd "crynhoi y gwirioneddau mawr am Dduw, ei Fab, am yr Ysbryd Glân am yr Iawn a'r Iachawdwriaeth; am nefoedd ac uffern; am sancteiddrwydd ac am bechod".
Maniffesto'r Tragwyddol oedd y Gyffes Ffydd. Sawl enwad a chorff o gredinwnyr drwy hanes gafodd eu rhwygo gan y dadlau diwinyddol am eiriad yr hyn oedden nhw yn gredu?
Ond, ac er i ambell un godi llais i anghytuno, digon diffwdan oedd y drafodaeth i gael sêl bendith ar gynnwys y Gyffes Ffydd newydd. Arwydd o'r awydd i beidio ail godi hen grachen oedd geiriau John Elias: "Fe fyddai'n well gennyf golli fy mraich ddeau na cholli'r geiriau yma o'r Gyffes Ffydd”.
Roedd y Gyffes Ffydd wedi eu llunio,"i uno'r holl frodyr yn agosach y naill a'r llall".
Yn hyn sy'n datgelu'r tensiwn rhwng 'profiad' a 'prifio' ydi gweddill y dyfyniad nad oedd y Gyffes Ffydd yno i "gaethiwo unrhyw frawd yn y rhyddid mae yr Efengyl yn ganiatáu".
Mae Densil Morgan yn awgrymu,fod yna hunan fodlonrwydd wedi dechrau cydio erbyn canol y ganrif o sefydlu rhyw ganolbwynt cyffredin “lle y gall pawb ymuno a chyd-fyned yn esmwyth a'i gilydd” a thueddu at lesâd cyffredinol y Cyfundeb.
Doedd ddim sôn am "lesâd cyffredinol" yn neunawfed ganrif y berw dadleuol tanbaid rhwng Calfiniaid ac Arminiaid. Yn amlwg, erbyn canol y ganrif roedd "gwrthdaro'r pendantrwydd" yn rhan o orffennol y Methodistiaid ac wrth i flynyddoedd y bedwaredd ganrif a'r bymtheg dynnu mlaen, daeth yr enwad yn fwy Presbyteraidd.
Hoffwn fod wedi cael gwybod mwy am gyfraniad Lewis Edwards yn y gwaith o ‘bresbyterio'r’ Cyfundeb.
Cafodd Edwards ei addysg yn yr Alban a thrwy hynny cafodd gyfle i weld a'i lygaid ei hun y manteision a'r bendithion ddaeth i Bresbyteriaeth yr Alban. Yn ddiamau, erbyn diwedd y bedwaredd ganrif a'r bymtheg, roedd y Methodistiaid yng Nghymru wedi magu digon o hunanhyder i ystyried eu hunain felly.
Gweinidogaeth lawn amser; gweinidogion gafodd fanteision addysg; gweinidogaeth y goler gron, y ffrock coat a'r het silc: gweinidogaeth Gymreig a Chymraeg oedd yn gallu cystadlu am statws cymdeithasol gyda'r Eglwys Anglicanaidd.
Dyma enwad oedd yn gallu anfon cenhadoni bedwar ban byd a thorri allan aelodau oedd yn tramgwyddo. Enwad a oedd, yn 1899, yn llwyddo i gasglu £237,640 gan yr aelodaeth - £13.5 miliwn yn arian heddiw!
Does ryfedd erbyn 1907, bron i ganrif wedi’r ordeinio yn y Bala, fod arweinwyr Methodistiaeth yn gallu ymffrostio "fod sefyllfa'r Cyfundeb yn achos gorfoledd i bawb oedd yn ei garu".
Ond yn sawl un o benodau’R gyfrol mae islais fod yr enwad a gafodd ei eni yn ffwrn y Diwygiad Methodistaidd, wedi talu pris go drwm.
Yn Sasiwn Y Rhyl er enghraifft,mynegwyd pryder ynglŷn â natur y Seiat. Y Seiadau, wedi'r cwbwl, oedd meithrinfa'r credinwyr cynnar. O'r preiddiau bychain hyn y tyfodd Behemoth Methodistaidd diwedd y ganrif.
Nododd y Sasiwn hwnnw; "gynt yr oedd y seiat yn seiat brofiad ond bellach nid adroddir profiadau ynddi".
Yn y gyfrol mae'r Athro J Gwynfor Jones yn addo y bydd y gyfrol nesaf yn trafod "yr amgylchedd pell gyrhaeddol ac i'r haeriadau tanseiliolbarodd argyfwng y cred diafol hwnnw yn y degawdau wedi cyflafan 1914-1918".
Gobeithio na fydd angen disgwyl deng mlynedd a'r hugain arall cyn iddi weld golau dydd!
John Stevenson
- Gweler hefyd: Adolygiad 'Gwales'

