« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Geiriau dethol - dyfyniadau

Categorïau:

Glyn Evans|15:05, Dydd Gwener, 13 Ionawr 2012

Detholiad arall o bethau a ddywedwyd ac a sgrifennwyd yn ystod yr wythnos.

A gwahoddiad, fel arfer, i chi ychwanegu atyn nhw neu ymateb iddyn nhw . . .

  • Pe byddai castell Y Fflint yn rhywle fel Swydd Hertford byddai heidiau o ymwelwyr yno a’r dref yn llawn o siopau anrhegion ac atyniadau twristaidd – Dave Heggarty, pennaeth adfywio Sir y Fflint sy’n gobeithio ennyn diddordeb newydd yng ngastell cudd tref Y Fflint. “Ar hyn o bryd, allwch chi ddim hyd yn oed weld y castell pan ydych yn teithio trwy’r dref,” meddai.

  • Mae gogledd Cymru yn colli ei llais yn San Steffan – Albert Owen AC Ynys Môn yn ymatebi adrefnu ffiniau etholaethau seneddol yng Nghymru.

  • 1,385 – nifer y bobl a ymgeisiodd am 16 o swyddi yn siop newydd DFS sydd ar fin agor yn Llandudno. Dim rhyfedd i lefarydd o’r cwmni fedru dweud iddynt lwyddo i gael “a great bunch of people”.

  • Yr oeddwn yn rhyfeddu, wedi’r holl flynyddoedd bod yna o hyd rannau o Ffordd A lle na allwch basio beic heb sônfws neu lori Mansel Davis – P Dawson o Gricieth yn cael yr A470 yn eisiau mewn llythyr yn y ‘Daiy Post’ heddiw.

  • Ych, dwi’m isio bod yn hanner cant na phumdeg na 50 – Bethan Gwanas yn teimlo’i hoed yn atodiad ‘Yr Herald Cymraeg’ yn y ‘Daily Post’.

  • Mae gan Richard Burton lu o ddilynwyr ar draws y byd – Y Cynghorydd Ali Thomas o Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn tynnu sylw at wefan newydd Llwybr Richard Burton.

  • Doedd yr un o'n chwaraewyr ni yn agos at y golwr. Rwyf wedi edrych ar y digwyddiad sawl gwaith - Malky Mackay, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd yn credu i’r dyfarnwr Mike Dean wneud cam â’i dîm.

  • Petai'r alwad ffôn yn dod, yna'n amlwg byddwn i'n hapus i'w derbyn - Chris Coleman yn mynegi ei ddiddordebyn olynu Gary Speed gan ddweud, “Os ydych chi'n cael cais i hyfforddi neu reoli'ch gwlad, yna mae'n anrhydedd.”

  • Gwlith – Ceri Wyn Jones, Meuryn newydd y Talwrn yn dewis ei hoff air yn ‘Golwg’.

  • I fi, Dafydd Iwan ydi dechrau canu pop Cymraeg – Dyl Mei yn ‘Golwg’.

  • Dywedodd nad oedd eu heisiau [ei anrhegion Nadolig] am i Santa roi’rtŷ ar dân – Victoria, Mam Thomas Smith pedair oed, y llosgwyd eu tŷ drannoeth y Nadolig. Dywedodd wrth y ‘Daily Post’ ei fod yn meddwl mai Santa achosodd y tân.

  • Wedi’r cyfan mae yna fwy o bandas mawr yn yr Alban nag o aelodau seneddol Torïaidd – Alun Pugh yn y ‘Daily Post’ yn ymuno a’r nifer gynyddol o bobl sydd wedi sylwi ar hyn.

  • Diflas a niweidiol - Disgrifiad Ysgrifennydd Addysg San Steffan, Michael Gove, o'r cwricwlwm technoleg gwybodaeth presennol a fydd yn cael ei newid yn Lloegr; ond nid yng Nghymru ar hyn o bryd.

  • Rhoddais fy llaw i mewn a theimlo organ ac fe’i tynnais –Y Dr Adam Carter yn rhoi tystiolaeth mewn cwest yng Nghasnewydd i farwolaeth dynes a fu farw wedi iddo geisio tynnu ei iau yn hytrach na’i haren yn ystod llawdriniaeth. Disgrifiodd teulu’r wraig y digwyddiad fel “camgymeriad gonest”.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.