Paid a Deud - trafod straeon Eigra
Ydi'r llenor a’r bardd Eigra Lewis Roberts wedi troi yn “hen wraig flin”? Dyna’r cwestiwn a gafwyd gan un o adolygwyr rhaglen BBC Radio Cymru, Y Silff Lyfrau, wrth drafod casgliad diweddaraf Eigra o straeon byrion.
Yn gyffredinol, canmolwyd y straeon yn Paid a Deud gydag Annes Glynn yn dweud eu bod yn arddangos “nodweddion gorau y stori fer” er iddi ychwanegu y byddai wedi hoffi mwy o amrywiaeth o straeon gan gwyno bod gormod o debygrwydd.Fodd bynnag, dywedodd Karen Owen, iddi hi fwynhau y syniad hwn o undod rhwng straeon.
Lyn Lewis Dafis wnaeth y sylw pryfoclyd bod Eigra “yn troi yn hen wraig flin”!
I wrando ar y drafodaeth rhwng Kate Crockett, cyflwynydd y rhaglen, a Lyn Lewis Dafis, Annes Glynn a Karen Owen cliciwch.
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

