« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Hoff Gerddi Natur

Categorïau:

Glyn Evans|14:10, Dydd Iau, 8 Rhagfyr 2011

Mae yno frain – ond roedd yn rhywfaint o syndod i mi bod cyfrol o Hoff Gerddi Natur Cymru yn bosibl heb frain T H Parry-Williams.

Ond dydi'r hen adar castiog, cableddus, croch ddim yn cael eu pig i mewn i’r ddiweddaraf o gyfrolau Hoff Gerddi Gwasg Gomer.

Hoff Gerddi Natur Cymru. Golygwyd gan Bethan Mair. Gwasg Gomer. £7.99.

Dyma chweched casgliad Hoff Gerddi y Wasg sydd eisoes wedi mentro i fyd serch, y Nadolig. digrifwch ac yn y blaen.

Mae’n prysur ddod yn gyfres ddefnyddiol dros ben yn ogystal â bod yn ddifyr, hawdd troi ati.

Go brin bod angen dweud fod rhywun yn chwilio am ddau beth wrth droi at gyfrolau fel hyn. Mae rhywun yn chwilio am y cerddi hynny y tybia ef ei hun ddylai fod yno ac am y cerddi y mae’r Golygydd wedi eu hepgor, neu hyd yn oed eu methu. Er, rwy'n credu gyda'r gyfres hon mai pleidlais y bobl yw sail y dewis. Dyna'r drefn ar y cychwyn ta beth.

Gyda phwnc â chymaint o ganu iddo yn y Gymraeg mae cerddi’r ail ddosbarth yn niferus ac yn wir doeddwn i ddim yn eiddigeddus o gwbl o olygydd oedd yn gorfod cyfyngu ei hun i gant a dau o gerddi mewn maes mor doreithiog.

Ar ben hynny caniataodd iddi ei hun y diffiniad eangaf posibl o’r gair natur hefyd a’i galluogodd i gynnwys ambell i gerdd fel Diwrnod Lladd Mochyn, Y Ci Defaid a Diwrnod Cneifio yn Enlli, na fyddwn i’n bersonol yn eu hystyried yn gerddi natur o ran fy niffiniad mwy cyfyng i.

Mae ymestyn y ffiniau mor hael yn ei galluogi i gynnwys nifer o gerddi amaethyddol er enghraifft a hefyd yn ei galluogi i gynnwys cerddi sydd ond ar yr wyneb yn ymwneudâ natur ond mewn gwirionedd yn ddrych neu’n alegorïau o weledigaeth eangach bardd megis Difiau Dyrchafael Saunders Lewis, Y Gwyddau R Williams Parry, Y Draenog, Gwenallt a Marwnad yr Ehedydd.

Nid beirniadaeth mo hon gan fod y penderfyniad golygyddol yn cyfiawnhau cynnwys cerddina fyddai ambell un arall wedi eu cynnwys er enghraifft a hynny’n ychwanegu at gyfoethy gyfrol.

Beth bynnag, mi fyddwn i wedi cynnwysTomi- Yr oedd y gloch wedi canu ers meitin – Nantlais fel cerdd natur felly be mae hynny’n i brofi! Yn yr un ysbryd yr oeddwn i wrth fy modd weld cynnwys yma Lle Bach Tlws-“doedd Idris yn gweled dim byd ond coed – T Gwynn Jones.

Dim ond â chyn lleied a thair neu bedair o gerddi y byddwn i’n dadlau ynglyn â’u cynnwys o gwbl – a chwiw bersonol fyddai’r sail i hynn – sy’n gwneud y flodeugerdd yn eithaf bargen i mi.

Fy syndod mwyaf oedd gwrthod yr hawl i frainT H Parry-Williams "regi a rhwygo . . . a thyngu" yma – er bod, yma, frain llai adnabyddus a phoblogaidd Euros Bowen.

Y mae Llyn y Gadair Parry-Williams yma fodd bynnag a sawl ‘iwsiwal syspect’ arall fel Y Llwynog – Ganllath o gopa’r mynydd - R Williams Parry ac oni fyddai hi wedi bod yn braf cael llwynog arall I D Hooson – a’i “ben ar bwys ei baflau blin” – yngyfaill iddo.

Mae cynnwys Yr Hebog uwch Felindre- “yn troelli yn nhrobwll anweledig ei ehediad” gan Alan Llwyd a Chudyll Coch I D Hooson – “Daeth cysgod sydyn dros y waun a chri a chyffro lle bu cerdd” o fewn dalen i’w gilydd yn peri gwrthgyferbyniad hyfryd i ddarllenydd.

Gellid fod wedi creu trindod ddifyr o ychwanegu Yr Hebog – “Hed hebog fel dart heibio . . . Nid oes gân lle disgynno” -Eifion Wyn.

Trueni yn wir nad oedd lle hefyd i Y Draenog gan y Llwyd - "Hugan fel drain amdano” ond y mae Y Draenog, iasol a welodd Gwenallt “echdoe ar fy ffordd i Nanteos”.

Trueni hefyd na chafwyd lle i Hiraeth am ForgannwgT E Nicholas – Yn nhawelwch y coedwigoedd Lle mae blodau’n dod i’w hoed” – le mae deisyfiad y bardd yn wrthgyferbyniad difyr i’r “o olwg hagrwch cynnydd” arferol.

Ond dyna fo, fe allai rhywunfynd ymlaen am byth yn edliw colli hyn a chynnwys y llall. Digon yn y pen draw yw canmol y gyfrol nid yn unig am yr hyn ydyw am ein gyrru ar berwyl y cerddi nas cynhwyswyd hefyd.

O edrych ar bethau o’r safbwynt hwnnw yr ydych ar eich hennill bob ffordd.

Un peth, ymarferol, a fyddai wedi cyfoethogi’r casgliad fyddai nodyn am ffynhonnell pob un o’r cerddi a blwyddyn eu cyhoeddi ac er hwylustod fynegai llinell gyntaf.

I grynhoi: “Cyfrol o hen gyfeillion sydd yma ar un wedd. Fel byd natur ei hun, mae yma bob lliw a llun, yn fawr a bach, yn ddoeth a gwirion, ond mae gan bob un ei werth a’i briod le,” meddai’r Golygydd yn ei rhagair.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.