« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Cymeriadau Llŷn - pobl Ioan Roberts

Categorïau:

Gwyn Griffiths|12:10, Dydd Iau, 15 Rhagfyr 2011

Cwyno wnawn ni fod cymeriadau yn darfod ond dydy nhw ddim, oherwydd mae rhai eraill yn dod yn eu lle, nid i lenwi eu sgidiau ond i greu eu sgidiau unigryw eu hunain.

Ond fel y dywed Ioan Roberts, golygydd Cymeriadau Llŷn, mae’r arferion a’r amgylchiadau a’r galwedigaethau a luniodd y cymeriadau a bortreadir yn y gyfrol wedi diflannu a hynny’n rhoi gwerth iddi i’r hanesydd lleol a chymdeithasol a deunydd darllen difyr, diddorol, i’r rhai hynny ohonom sydd ddim yn poeni am bethau o’r fath.

  • Cymeriadau Llŷn. Golygydd Ioan Roberts. Cyfres Cymêrs Cymru. Gwasg Gwynedd. £5.95

Idris Evans – Tarw Nefyn – yw’r unig gymeriad y teimlwn fy mod i’n gwybod rhywfaint amdano diolch i seiad nos Fawrth, flynyddoedd go lew yn ôl, yng nghwmni golygydd y gyfrol ac un arall oedd wedi chwarae gyda’r Tarw, Orig Williams a Robin Ken i dîm Dyffryn Nantlle.

Rheini oedd y dyddiau da pan fyddai’r miloedd yn heidio i wylio gemau Bangor, Caernarfon, Pwllheli, Porthmadog – llond wyth bws yn mynd bob Nadolig i wylio Pwllheli’n chwarae Caernarfon.

Bellach mae’r Tarw dros ei bedwar ugain ac yn chwarae bowls. “Gêm bach dda – jyst bo fi ddim yn cael taclo!”

Wedyn, dyna bortread y Parch Meirion Lloyd Davies o’r Parchedig Morgan Griffith.Diddorol fuasai olrhain faint o wŷr yr Efengyl fu yn y sgwâr bocsio cyn troi tua’r pulpud.Dynion fel “Dan bach o Bontypridd” a Morgan Jones, Hendy-gwyn-ar-Dâf, “mountain fighters” hyd yn oed!

Yn llinach y rheini y daw Morgan Griffith – pencampwr bocsio yn y coleg a’i fam, hefyd, yn dipyn o ddynes yn magu tri o weinidogion a dal i regi fel tincar!

Mae’n amlwg i Morgan ddysgu rhywfaint wrthi.Er yn gapten Clwb Golff Pwllheli, gwrthwynebodd benderfyniad y clwb i ganiatáu chwarae ar y Sul.

Pregethodd yn erbyn y penderfyniad mewn cyfarfod awyr agored ar y Maes ym Mhwllheli ar y prynhawn Sadwrn cynt.“A gobeithio bydd hi’n glawio ar y diawlad fory,” taranodd.

Mae yma amryw o ysgrifau portread ardderchog, fel un Gwyneth Owen am ei thad, John Rowlands, gyrrwr lori laeth ac englynwr.Dyna’r dyddiau pan fyddai llawer ohonom yn manteisio ar y lori laeth am lift i rywle neu’i gilydd ar fore Sadwrn.

A beth am yr englyn hwn o’i eiddo i Fwthyn Nain?

Bwthyn heb fawr o bethau – a fu’n Nef
I Nain gynt a minnau,
A brwyn o gors y bryniau
Yno’n do i ni ein dau.

Cymeriadau lliwgar fel y Siôn Bodantur ddyfeisgar a’i chwaer awengar Ann o Lŷn.Eisteddfotwyr dawnus, wedyn, fel y canwr gwerin, Harri Lôn, a gyflwynir mewn campwaith o ysgrif gan Eleri Llewelyn Morris, a’r adroddwraig, Neli’r Hendra, un o sawl portread graenus gan Ioan Roberts ei hun.

“Dwi wedi ennill amball dro am mai fi oeddwn i, ac wedi colli am yr un rheswm dro arall.Mympwy beirniad ydi hwn i gyd,” meddai Neli, a hithau wedi beirniadu bum gwaith yn y Genedlaethol.

Hoffais yn fawr y portread o Dafydd Parry yr Ocsiwnïar, cowlaid o straeon da.Oes yna arwerthwyr sy’n bwrw drwyddi’n ddwyieithog y dyddiau hyn?Cofiaf rai’n gwneud yn mart Tregaron slawer dydd.

Un dda yw’r stori am angladd hen lanc o ffermwr cefnog heb unrhyw berthnasau agos ond nifer o rai pell – gobeithiol.Wedi’r angladd cyhoeddodd Parry o ddrws o festri – “Pawb sy’n perthyn i’r Band of Hope, dewch yma ar eich union”.

Cyfrol i ysgafnhau’r cyfnod wedi’r Nadolig – a nid jyst ar gyfer pobol Llŷn!

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.