« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Dau begwn Patagonia

Categorïau:

Glyn Evans|07:04, Dydd Mawrth, 8 Mawrth 2011

Mae yna rywfaint o begynnu barn am y ffilm Patagonia gyda Duffy a Matthew Rhys.

Adolygydd y Daily Telegraph yn ei disgrifio fel llwyd a blinedig - "pallid and fatiguing" ond gwefan Arts Desk yn canmol cyfoeth ei "cinematic textures".

Mae'n disgrifio hefyd gameo hyfryd gan Duffy tra bo Kevin Harley o Total Film yn ei chyhuddo hi, druan fach, o "roi un hoelen olaf yn arch y ffilm".

Dwi'n meddwl ei bod yn deg dweud i ymateb y beirniaid Cymraeg fod yn gyffredinol ganmoliaethus gyda Branwen Gwyn ar Raglen Dewi Llwyd ar BBC Radio Cymru fore Sul yn ei disgrifio fel y ffilm Gymraeg orau a welodd erioed a rhoi deg allan o ddeg iddi.

Gall gystadlu'n hawdd efo ffilmiau Hollywood meddai.

Canmol hefyd mae Lowri Haf Cooke ar y wefan hon.

Ac ar wefan film jabber dywed adolygiad y The Seattle International Film Festival fod yr actorion yn gyffredinol dda ac yn dygymod yn iawn â'r hiwmor yn y sgrifennu sy'n cadw pethau i fynd.

"Dydi Patagonia ddim heb ei ffaeleddau ond maen nhw'n nodweddiadol fach," meddir gan gyfeirio at actio cryf, sgrifennu cynnes a golygfeydd hyfryd fel y pethau o'i phlaid.

Fodd bynnag, fel "drab, soap opera-like melodrama" mae Time Out yn disgrifio ffilm Marc Evans ond yn canmol ei lygaid am luniau trawiadol.

"Collector's item" ydi disgrifiad Anthony Quinn yn yr Independent o'r ddau "road movie" am bris un yma .

A gwelodd Little White Lies eiliadau o "felodrama a nwyd dwys" yn ogystal â hiwmor.

Ym marn y Daily Mirror hefyd mae'r ffilm yn "complete gem".

O gywain casgliad o sylwadau daw Rotten Tomatoes i'r casgliad mai pump allan o ddeg yw haeddiant Patagonia

Gyda chymaint o wahaniaeth barn does dim dewis ond mynd i weld a dod i'ch casgliad eich hun a Mawrth 31 yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug, fydd y cyfle cyntaf yn yr ardal hon.

Gawn ni weld wedyn pwy sy'n iawn, Branwen Gwyn ynteu Tim Robey y Telegraph.

Ac os gwelwch chi'r ffilm - anfonwch air.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.