Ymateb cadeiriol
Fel yr oedd rhywun yn rhagdybio ddoe mae ymateb yn barod i Gadair Eisteddfod Glynebwy.
Dyma rai o'r pethau a glywyd hyd yn hyn - a dim ond neithiwr oedden nhw'n ei dangos hi am y tro cyntaf erioed.

- "Iesgob!"
"Mi fydda hi wedi bod yn un dda ar gyfer Y Bala y llynedd - lle nad oedd yna neb yn deilwng."
"Mi fydd hi ar e-bay mis Awst."
"Mae hi fel un o'r awyrennau papur yna roeddem ni'n eu gwneud yn yr ysgol ers talwm."
"Gobeithio eu bod nhw wedi cadw'r risît."
"Lle mae o'n mynd i ista?"
"Dyna un fantais o gael Cadair wedi ei gwneud gan dri o bobl - mi fedran nhw roi'r bai ar ei gilydd."
Hyd yn hyn, ni chlywyd fawr ddim canmoliaeth . . . ond mae hawl i wneud hynny hefyd.


SylwadauAnfon sylw
Bendith fwyaf y gadair hon yw ei bod yn amlwg yn plygu ac yn hawdd i fynd a hi adref yng nghefn y car. Canmoliaeth iddi am hynny!
Ein gobaith mawr yw y bydd rhywun yn cael rhoi dwy foch ei din arni ar ba bynnag ddiwrnod y mae'r cadeirio erbyn hyn.