Cynghorion gwirion i'r anghall!
Cefais gerydd yn dilyn y pwt am y comic Viz y dydd o'r blaen oherwydd na wnes i grybwyll o gwbl un o eitemau difyrraf y cylchgrawn.
Y casgliad o awgrymiadau buddiol gan ddarllenwyr a gyhoeddwyd dros y blynyddoedd.
Maen nhw'n math o beth sy'n boblogaidd mewn sawl cylchgrawn wrth gwrs. Pethau fel; os ydych chi'n colli gwydraid o win coch ar garped tywalltwch lond pwced o win gwin drosto i gael gwared â'r staen neu rywbeth tebyg.
Ta beth mae awgrymiadau darllenwyr Viz, fel y gallech feddwl, yn go wahanol i rai call a buddiol darllenwyr eraill.
Dyma ichi ddetholiad - a gwahoddiad agored ichi ychwanegu rhai gwreiddiol eich hun atyn nhw.
- Rhag gwastraffu dŵr poeth gwagiwch y dŵr o'r bath ar ôl ichi orffen i fflasg Thermos er mwyn ei ddefnyddio eto.
Cariwch lysieuyn gwahanol yn eich poced bob dydd i'ch atgoffa pa ddiwrnod yw hi. Moronen ddydd Llun, taten ddydd Mawrth ac yn y blaen.
Rhag teimlo cywilydd ar ôl baglu yn y stryd gwnewch yr un peth eto nifer o weithiau fel bo pobl yn meddwl mai dyma eich ymddygiad arferol.
I'w gwneud yn haws dod o hyd i'ch car mewn maes parcio mawr fel un y Steddfod gollyngwch y gwynt o bob olwyn. Eich car chi fydd yr un isaf yn y maes parcio wedyn.
I ddiogelu'ch hun rhag boddi y tro nesaf y byddwch ar gwch neu long; rhowch lodrau eich trowsus yn eich sanau a llenwi'r coesau gyda chymaint o beli ping pong a phosibl.
I wneud i'ch blwch adar edrych fel tŷ to gwellt hoeliwch ddau Shredded Wheat i'w do.
Gwnewch i gawl bara'n hirach trwy ei fwyta efo fforc.
Pan yn gwneud paned; os gwnewch chi gynhesu'r dŵr mewn sosban gyntaf fe fydd yn berwi'n gynt ar ôl ichi ei dywallt i'r tegell.
Beth am beintio croes goch ar waelod eich cwpan de er mwyn ichi fedru gweld pan fyddwch chi wedi gorffen yfed eich paned?
Defnyddiwch ebill i dorri twll bychan yn nrws eich cwpwrdd rhew er mwyn ichi weld bod y golau bach yn diffodd pan fyddwch chi'n cau'r drws.
I rwystro wyau rhag rowlio oddi ar fwrdd y gegin gosodwch nob un mewn smotyn o driagl.
I arbed arian; bob tro yr ydych am brynu afalau prynwch nionod yn eu lle. Maen nhw'n llawer rhatach.
Er mwyn arbed arian ar gwm cnoi cnowch hen lastig wedi ei orchuddio â sebon dannedd. Mae'r un mor flasus ac yn para'n hirach os rhywbeth.
Trwy osod drych yn y nenfwd gallwch gadw golwg ar eich traed heb blygu i edrych i lawr.
Er mwyn gwneud i bobl feddwl eich bod yn gwisgo sbectol ac wedi ei anghofio defnyddiwch lwy boeth bob bore i wneud marc dros bont eich trwyn.
Prynwch yr un math o set deledu'n union â'r bobl drws nesaf. Yna pan yw hi wedi tywyllu sefwch y tu allan i'w ffenest yn newid eu sianel. Fe fyddan nhw'n methu deall beth sy'n digwydd.
I gael mynediad am ddim i sinema cariwch hambwrdd gyda hufen iâ arno.
Os na allwch fforddio pythefnos o wyliau - ewch am wythnos a pheidio mynd i gysgu o gwbl.
Y tro nesaf y byddwch yn cael parti rhowch fotymau plastig efo gwahanol rifau arnyn nhw i bawb eu llyncu gan gofnodi rhif ac enw pawb. Wedyn byddwch yn gwybod yn union pwy sydd wedi taflu fyny tu ôl i'r soffa.
I gadw'r plant yn ddiddig rhowch becyn o sglodion wedi rhewi iddyn nhw o'r rhewgist a chynnig gwobr i'r cyntaf i greu taten.

