« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Cân Gymraeg am y tro cyntaf erioed !

Categorïau:

Gwyn Griffiths|05:17, Dydd Sadwrn, 13 Mehefin 2009

BBC Canwr y Byd Caerdydd - bore Sadwrn

Gwyn Griffiths yn blogio'n ddyddiol o gystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 2009.

Daeth rhan gyntaf cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd 2009 i ben neithiwr gyda Gwobr Datganiad 2009 yn mynd i'r Weriniaeth Siec.

Y baswr cawraidd, 26 oed, Jan Martiník oedd yr enillydd, gŵr â'r llais gyda'r hyfrytaf a llond gwlad o gymeriad a phresenoldeb.

Mentrodd ganu tair cân gan Saint-Saëns, nifer sylweddol o waith un cyfansoddwr, dwy gan Schumann ac un o waith Schubert.

Jan Martiník

Dyma berfformiwr di-fai a bydd yn gamp ei guro yn ffeinal y brif gystadleuaeth nos yfory (nos Sul) hefyd. Mae ei allu i ganu yn y gwahanol ieithoedd, a hynny gydag argyhoeddiad, yn un o'i rinweddau.

Coronodd wythnos ardderchog o ganu i gyfeiliant piano a hynny yn y modd mwyaf pleserus.

Bu raid i Tomislav Lučić o Croatia dynnu nôl oherwydd aflwydd i'w lwnc a chymerwyd ei le gan y soprano fach hudolus o Siapan, Eri Nakamura a fydd hefyd yn rownd derfynol y brif gystadleuaeth nos Sul.

Canodd dair cân gan Hugo Wolf, dwy o waith Richard Strauss ac un, Manjyushage, gan y cyfansoddwr Kösaku Yamada o'i gwlad hi ei hun. Mae'n meddu ar lais cynnes, hyfryd, a swniai gymaint yn well yn Neuadd Dewi Sant nag yn y Theatr Newydd lle bu'r rowndiau rhagbrofol. Ond a oedd tair cân gan Wolf yn ormod?

Clywais lawer o ddadlau a thrafod ar yr uwchdenor, Yuriy Mynenko, o'r Wcráin. Cawsom ystod o ganeuon ar draws y canrifoedd ganddo, o gân serch o tua 1650 allan o'r opera Orontea gan Cesti i Silent Songs Valentin Sivestrov, a gyfansoddwyd ganddo pan oedd allan o ffafr awdurdodau'r Undeb Sofietaidd.

Mae ei lais yn rhyfeddod ac ni fuasai'n fwrn gwrando arno am oriau ond un feirniadaeth oedd na chanodd fwy o ganeuon a gyfansoddwyd ar gyfer uwchdenor yn hytrach na chanu caneuon a gyfansoddwyd ar gyfer lleisiau merched.

Anodd coelio bod seiniau mor fenywaidd yn dod o enau creadur mor olygus a gwrywaidd yr olwg,

Bydd pob un o'r tri yna i'w gweld a'u clywed ar lwyfan y brif gystadleuaeth nos yfory.

Canodd Javier Arrey, y bariton o Chile, bum cân o waith Dvořák - oll o naws Feiblaidd, un gan Ravel allan o Don Quichotte á Dulcinée, a'r gân Erlkönig gan Schubert.

Dyma gân a recordiwyd gan gynifer o gantorion mawr y byd a hawdd iawn cymharu Arrey yn anffafriol gyda rhai ohonyn nhw.

Dewis cân Gymraeg
Yr olaf i ganu oedd Natalya Romaniw, y soprano o Gymru a chawsom berfformiad ardderchog ganddi a rhaglen wedi ei dewis yn ofalus gydag amrywiaeth ganmoladwy o ganeuon - Purcell, Brahms, Delibes, Rakhmaninov a Benjamin Britten.

Yna gwnaeth rywbeth na wnaeth yr un cystadleuydd o Gymru yn hanes BBC Canwr y Byd, canodd gân Gymraeg - soned feddwol R Williams Parry, Mae hiraeth yn y môr a'r mynydd maith gyda'r gerddoriaeth gan Dilys Elwyn-Edwards.

Dros yr holl flynyddoedd, â'r holl siaradwyr Cymraeg a feithrinwyd yn y traddodiad eisteddfodol a gynrychiolodd Gymru yn y gystadleuaeth, ni chanwyd unwaith gân Gymraeg na chân a gyfansoddwyd gan Gymro.

Synnodd Natalya'n fawr pan dynnais ei sylw at hyn a diolch iddi yn y parti ddiwedd y noson am achub enw Gwlad y Gân.

Fel yr awgryma ei chyfenw, Romaniw, mae ei gwreiddiau mewn ardal ar ffin Gwlad Pwyl a newidiodd ddwylo sawl gwaith. Er nad yw'n medru Cymraeg fe gaiff ei chofio nawr am fod y gyntaf o gynrychiolwyr Cymru i barchu iaith a thraddodiad cerddorol ein gwlad yn y gystadleuaeth hon.

Mae cystadleuaeth y Datganiad yn rhoi cyfle i bob cystadleuydd ganu o'u gwlad ac y mae mae pob un, bron, yn gwneud hynny gyda balchter.

Eleni clywson hwiangerdd Maori gan gynrychiolydd Seland Newydd, cân o Gatalunya gan gynrychiolydd Andorra ... gallwn fynd drwy restr gyfan o'r rhai gynigiodd am wobr y Datganiad.

Hyderaf, y bydd cynrychiolwyr Cymru i gyd o hyn allan yn dilyn esiampl Natalya.


BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.