ERIN Wnei di byth guro dy record fel ’na…
JOSEFF Dylai rhywun wneud rhywbeth am y biniau ‘na.
ERIN Yn union. Y cyngor! Pa mor hurt yw e taw dim ond un bin sydd ‘na? Mae angen ailgylchu yn y parc, yn ogystal â phob man arall.
JOSEFF Mm-hm. Be’ wnei di?
ERIN Joseff. Credaf yn gryf fod dyletswydd ar bawb i ailgylchu, neu i roi sbwriel yn y bin, o leiaf. Yn sicr nid ei daflu ar lawr! Wyddost ti ei fod yn cymryd mil o flynyddoedd i blastig ddiraddio’n naturiol?
JOSEFF Does dim amheuaeth fod ailgylchu’n bwysig, Erin. Smo fi’n dadlau am hynny. Ond yn fy marn i, nid dyna’r pwynt. Does dim bin ailgylchu yma.
ERIN Dewn ni o hyd i un.
JOSEFF Pa neges fyddai hynny’n ei rhoi wedyn?
ERIN Be ti’n feddwl?
JOSEFF Wel, os yw pawb yn gwneud ymdrech i ailgylchu’n rhywle arall, pa reswm sydd gan y cyngor i roi bin newydd yn fan hyn? Os oes sbwriel dros y llawr, mae hynny’n dangos fod angen un.
ERIN Ti’n gwybod beth fydde’n cyfleu’r un neges? Ysgrifennu llythyr.
JOSEFF Ym mha ganrif ges di dy eni? Ebost ti’n feddwl!
Mae ‘na ffyrdd mwy effeithiol o brotestio. Dyna fy marn i. Ti’n meddwl ein bod ni’n dal i siarad am Gandhi oherwydd ei fod e wedi ‘sgrifennu llythyron at y cyngor? Dyw beth ry’n ni’n wneud nawr ddim yn gweithio. Mae’n rhaid i ti gyfadde hynny.
ERIN Ond dyw hi ddim yn brotest dda os ti’n gwneud yn union beth ti’n protestio yn ei erbyn! Alla i ddim meddwl am neb mewn hanes sydd wedi dod yn enwog am wneud hynny. Mae 98% o wyddonwyr yn credu bod cynhesu byd-eang yn broblem ddifrifol, wedi ei chreu gan bobl…
JOSEFF Yn gwmws. Ac maen nhw’n credu dylen ni newid ein bywydau’n gyfan gwbl i ddelio ‘da’r peth. Dyw ailgylchu potel fan hyn fan draw ddim yn mynd i helpu yn y tymor hir.
ERIN Mae rhai ohonon ni’n paratoi ar gyfer adegau fel hyn! Gweld hon? Potel ddur, fel ‘mod i ddim yn gorfod defnyddio un blastig dro ar ôl tro. Ac fe ddweda i rywbeth arall wrthot ti ‘fyd…Roeddwn i fod wedi gorffen dwy lap erbyn nawr…
JOSEFF Gwranda… dw i’n deall pa mor gryf ti’n teimlo am hyn. Ond yn bersonol, sai’n credu bod ymddwyn yn neis a dilyn rheolau’n mynd i ddal sylw pobl. Heb os nac oni bai, mae ‘na ffyrdd mwy effeithiol o wneud hynny. Dyna i gyd.
ERIN A, dw i’n dy ddeall di Joseff. Ond dw i’n credu fod angen gwneud y gorau galli di nawr, yn hytrach na gobeithio fod pethau’n mynd i wella yn y dyfodol. Dyw byw fel anifeiliaid ddim yn helpu neb.
JOSEFF A, reit. Ni’n gytûn felly.
ERIN Dw i’n meddwl ein bod ni.
JOSEFF Iawn, ffans?
ERIN Hei! Rhodri! Stopia’r beic ‘na’r funud ‘ma!
JOSEFF Beth wyt ti? Anifail?
More on Llafaredd
Find out more by working through a topic
- count3 of 6

- count4 of 6

- count5 of 6

- count6 of 6
