RHODRI Dewch i mewn.
JOSEFF Shw’mai, Rhods?
MALI Rhodri.
ERIN Pam ni ‘ma, Rhodri? Roeddet ti’n swnio’n nerfus ar y ffôn.
RHODRI ‘Steddwch, ffans.
Dwi am drio un o’r cystadlaethau talent ‘ma. A dwi isho’ch help chi. Dwi ‘di trio barddoni.
Jest… gwrandwch. Dwi ‘di sgwennu dwy gerdd, a dwi angen i chi ddewis yr ora.
MALI Cerddi? Rhai iawn? Gyda chynghanedd a phob dim?
JOSEFF A… ym… geiriau? Mewn rhesi bach twt?
RHODRI
Ar y meic, dwi’n rêl boi,
Poeri geiriau tra ma’r gân yn troi.
Fflamau a thân, dros y gân,
Dwi’n odli a threiglo dros bob darn.
Pwy yn y byd sa’n well, medda chi?
Sna neb yn dod yn agos i fi!
Dwi’n hyblyg, sydyn, gwych a grêt,
Dwi’n boblogaidd, efo digon o fêts.
JOSEFF Rhodri. Rap o’dd hwnna.
RHODRI Wel, rap, cerdd. ‘Run peth ydi o yn y bôn, de?
JOSEFF Ac roedd e’n… dda. Hoffi dy dechneg o restru ansoddeiriau. ‘Hyblyg, sydyn, gwych a grêt!’ Mae rhythm y geiriau’n dangos dy sgiliau rapio’n berffaith…
ERIN … sef yr union bwynt ti’n trio ei wneud! Clyfar iawn, Rhodri.
MALI Hoffi’r trosiad hefyd. ‘Fflamau a thân, dros y gân.’ Mae’n creu delwedd fyw iawn yn y meddwl. Alla i dy ddychmygu di’n poeri tân fel draig dros y lle!
RHODRI Disgwyliwch funud. Mae ‘na un arall.
MALI Mam bach. Anghofiais i am yr un arall.
ERIN Diwrnod. Gorau. Erioed.
RHODRI
Dim mynadd efo ysgol a dilyn rheola,
Cyrraedd y dosbarth, fi di’r ola,
Ond dwi yn mwynhau pynciau, gwaith a gwrando,
Ond well gen i fod wrth y decs yn sbinio.
Mae’r athrawon yn cŵl a charedig,
Fy ffrindiau yn wych a bendigedig,
Dwi am fod yn seren fwya’r byd.
Cofiwch yr enw, dwi’n well na chi i gyd.
JOSEFF Ddalies i’r cyflythreniad slei ‘na, Rhods. ‘Gwaith a gwrando’. Ac roedd ‘na lot o gytseiniaid caled ‘da ti fan hyn oedd wir yn cefnogi naws heriol, wrthryfelgar y rap.
ERIN Ac mae ‘na ddatblygiad cryf yma hefyd. Mae’n mynd o naws ddi-ddim, anobeithiol y llinellau cynta’, i uchafbwynt cryf y diweddglo. Unwaith i ti gyrraedd yr uchafbwynt – ‘Cofiwch yr enw, dwi’n well na chi i gyd’ – ni’n teimlo fel ein bod ni wedi bod ar siwrne.
RHODRI Felly… be ‘di’r gwahaniaeth rhyngddyn nhw? Dwi angen gwbod. Mae’n bwysig.
MALI Wel, mae’r themâu yn debyg. Mae’r ddwy gerdd yn dy bortreadu fel rapiwr penigamp. Y ddwy’n defnyddio mesur rhydd, ac arddull anffurfiol.
JOSEFF Ond mae ‘na wahaniaethau, hefyd. Mae’r gerdd gynta’…
RHODRI Rap.
JOSEFF … rap cynta’, yn cynnwys mwy o dechnegau llenyddol. Trosiadau, cyflythrennu, rhestru.
MALI Ond mae’r ail yn adrodd mwy o stori yn hytrach na chyflwyno rhestr o ffeithiau. Mae’r ddau’n effeithiol, ond mewn ffyrdd gwahanol.
ERIN Iawn. Gweld hon? Wrth gymharu cerddi, mae’n rhaid ystyried nodweddion ac arddull, themâu, sillafau ac odlau, a neges.
MALI Ac wrth drafod y pethau ‘ma, ry’ch chi angen eu henwi nhw, rhoi enghraifft, ac esbonio pa effaith maen nhw’n cael arnoch chi.
JOSEFF Y tri E!
RHODRI A… pha rap ydi’r gora?
JOSEFF & MALI Y cynta’!
ERIN Yr ail!
ERIN, JOSEFF & MALI Na…
JOSEFF & MALI Yr ail!
ERIN Y cynta’!
RHODRI Diolch. Da chi ‘di bod yn lot o help.
ERIN Dere ‘mlaen, Rhodri. Beth yw’r gystadleuaeth fawr yma?
MALI Ie! Pryd welwn ni dy wyneb ar S4C?
RHODRI Sioe dalent y teulu. ‘Dan ni’n ei gwneud hi bob blwyddyn.
MALI Ie. Pob lwc, Rhodri.
JOSEFF Ymdrech dda, ond… yyym.
ERIN Welwn ni di wedyn.
RHODRI Cofiwch yr enw, dwi’n well na chi i gyd.
More on Darllen
Find out more by working through a topic
- count6 of 7

- count7 of 7

- count1 of 7

- count2 of 7
