
Ffocws dysgu
Dysga ddefnyddio sgiliau rhif i adnabod rhifau cyfan negyddol ar linell rif.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo yn egluro beth yw rhifau negyddol
- un gweithgaredd i brofi dy hun ar y rhifau negyddol
Learning focus
Learn to use number skills to identify negative whole numbers on a number line.
This lesson includes:
- one video explaining what negative numbers are
- one activity to test yourself on negative numbers

Fideo / Video
Mae Jerry ac Albert yn darganfod beth yw rhifau negyddol a phryd maen nhw'n cael eu defnyddio.
Jerry and Albert discover what negative numbers are and when you need to use them.
Beth yw rhifau negyddol?
Mae rhifau negyddol yn cael eu defnyddio mewn sawl sefyllfa.
Fel gyda'r tymheredd.
Dyw rhifau ddim yn stopio ar ddim.
Pan wyt ti'n cyfri yn ôl o sero, rwyt ti'n dechrau defnyddio rhifau negyddol.
A nawr mae'r tymheredd yn minws un deg pump gradd Celsiws.
Beth am i ni gynhesu rhywfaint arnoch chi?
Mae defnyddio thermomedr i drefnu rhifau yn ffordd rwydd o weld bod minws 15 yn rhif is na minws pump achos ei fod e'n is lawr y llinell.
A gan bod y ddau ohonyn nhw o dan sero, mae nhw'n rhifau negyddol.
Mae rhifau negyddol hefyd i'w gweld mewn adeiladau pan wyt ti'n mynd o dan lefel y ddaear.
Minws deg, dyna ddeg llawr o dan lefel y ddaear.
Ffiw! Na chi lwc!
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio'r fideo, dylai'r disgyblion wybod:
- bod rhifau negyddol yn cael eu defnyddio pan wyt ti'n cyfri yn ôl o sero
- bod rhifau negyddol yn cael eu defnyddio mewn sawl sefyllfa, fel gyda thymheredd ac adeiladau sy'n mynd o dan lefel y ddaear
Notes for parents
After watching the video, students should know:
- that negative numbers are used when you count back from zero
- that negative numbers apply to lots of things, including temperature and buildings when you go below ground level

Llai na sero / Less than zero
Dydy rhifau ddim yn dod i ben ar sero. Wrth rifo cam yn ôl o sero, rwyt ti’n mynd i rifau negyddol.
Rhifau positif yw rhifau mwy na sero: 1, 2, 3, 4, 5, ac ati.
Rhifau negyddol yw rhifau llai na sero: -1, -2, -3, -4, -5, ac ati.
Numbers don't end with zero. When counting backwards from zero, you go into negative numbers.
Positive numbers are numbers that are more than zero: 1, 2, 3, 4, 5, and so on.
Negative numbers are numbers that are less than zero: -1, -2, -3, -4, -5, and so on.

Gweithgaredd 1 / Activity 1
Ceisia roi'r rhifau yn eu trefn.
Try to place these numbers in order.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
