
Ffocws dysgu
Defnyddia sgiliau rhif i gyfrif hyd at 20 o wrthrychau’n ddibynadwy.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- dau weithgaredd
Learning focus
Use number skills to count upto 20 objects independently.
This lesson includes:
- one video
- two activities

Fideo / Video
Mae dau ffrind yn mynd i’r ffair ac yn talu i gael tro ar dair stondin wahanol.
Two friends go to the fair and pay to play at three different stalls.
Gwario arian yn y ffair
BETHAN W, dw i’n edrych ymlaen at y ffair.
Edrycha, stondin cnau coco!
Un, dau. Mae’n rhaid taro’r cnau coco i lawr!
Dw i eisiau tro!
Does gen i ddim arian. Faint o arian sy’ gen ti?
CHARLIE Mae un, dwy, tair punt gyda fi.
BETHAN Ga i fenthyg punt os gweli di’n dda?
CHARLIE Cei.
BETHAN Diolch.
Un, dau! Ieeei! Dw i wedi ennill dau docyn.
Edrycha, stondin bachu hwyaid!
Un, dwy, tair, pedair. Mae’n rhaid bachu pedair hwyaden!
Dw i eisiau tro!
Ga i fenthyg punt eto os gweli di’n dda?
CHARLIE Cei.
BETHAN Un, dwy, tair, pedair! Ieeei! Dw i wedi ennill pedwar tocyn.
Edrycha, stondin hŵpla!
Un, dau, tri, pedwar.
Mae’n rhaid taflu’r cylchoedd o gwmpas y pedwar côn.
Dw i eisiau tro!
CHARLIE Dyma ti.
BETHAN Un, dau, tri, pedwar! Ieeeei! Dw i wedi ennill pedwar tocyn!
CHARLIE Sawl tocyn sy’ gyda ti?
BETHAN Un, dau, tri, pedwar, pump, chwech, saith, wyth, naw, deg!
Mae gen i ddeg tocyn.
Ga i wobr dda rŵan.
CHARLIE O, diolch.
Dw i'n mynd i alw'r ci yn Smot!
Smot yw'r ci gorau yn y byd i gyd.
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- cyfri yn hawdd o un i ddeg
- deall bod angen defnyddio arian i dalu am bethau
- deall beth yw gwerth arian
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
- count easily from one to ten
- understand that money is used to pay for things
- understand the value of money

Gweithgaredd 1 / Activity 1
Rho'r rhifau isod yn y drefn gywir, o 1 i 10.
Put the numbers below in the correct order, from 1 to 10.
1, 4, 5, 2, 7, 3, 8, 6, 10, 9
Nawr, ysgrifenna eiriau'r rhifau yn y drefn gywir, o 1 i 10.
Now, write the words of the numbers in the correct order, from 1 to 10.
Clicia yma i weld yr atebion i'r cwestiynau. / Click here for the answers.

Gweithgaredd 2 / Activity 2
Wyt ti'n gallu gwneud y symiau isod?
Are you able to do the sums below?
- 7 + 4 = __
- 9 + 6 = __
- 6 + 8 = __
- 13 + 2 = __
Clicia yma i weld yr atebion i'r cwestiynau. / Click here for the answers.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
