
Ffocws dysgu
Dysga ddarllen faint o’r gloch ydy hi ar glociau analog.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- un gweithgaredd
Learning focus
Learn to read ‘o’clock’ on an analogue clock.
This lesson includes:
- one video
- one activity
Wedi ei chreu mewn partneriaeth â Twinkl.

Fideo / Video
Gwylia'r fideo a dysga sut i ddweud faint o'r gloch ydy hi.
Watch the video and learn how to tell the time.
Sut i ddweud faint o'r gloch ydy hi
CLOC Barod amdani??
CLOC Mae’r amser… wedi dod!
YMENNYDD Ugghhhhh??
ADRODDWR Beth am ddangos yr amser ni, Cloc?
CLOC Dim problem!
CLOC Un o’r gloch!
CLOC Dau o’r gloch!
CLOC Tri o’r gloch!
CLOC Pedwar o’r gloch!
ADRODDWR Ti’n gweld? Mae’r cloc yn cynnwys y rhifau un i ddeuddeg… bys mawr i’r munudau… a bys bach i’r oriau.
ADRODDWR Mae chwedeg o funudau mewn awr, ac mae hyn yn cael ei ddangos gydag un tro o’r bys mawr o gwmpas wyneb y cloc, ond mae’r bys bach dim ond yn symud ymlaen un rhif, felly, mae chwedeg munud mewn un awr, deall?
YMENNYDD Ugghhh!
CLOC Hmmmffff – deuddeg o’r gloch!
ADRODDWR Gwaith da, Cloc! Beth am edrych ar hanner awr yr awr?
CLOC Dim problem! Hanner awr wedi un. Hanner awr wedi dau…
ADRODDWR Pan mae’r bys mawr yn pwyntio i’r rhif chwech, mae hi’n hanner awr wedi – neu’n drideg munud – wedi’r awr. Felly, mae un hanner tro, yn golygu bod trideg munud wedi pasio.
YMENNYDD Oooooo!
CLOC Hmmmmffff! Aaaahh – www!
ADRODDWR Da iawn, Cloc! Amser gorffen nawr… Ha – deall? “Amser…”? Na? Yhhh, does dim ots!
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio’r fideo, dylai fod disgyblion yn gallu:
- gwybod bod bys bach (awr) a bys mawr (munud) ar wyneb cloc
- gwybod bod 60 munud mewn un awr
- deall sut i ddweud faint o'r gloch ydy hi ar yr awr ac ar yr hanner awr
Notes for parents
After watching the video, pupils should:
- know that there is an hour hand and a minute hand on the clock face
- know that there are 60 minutes in an hour
- understand how to tell the time on the hour and on the half hour

Amser
Mae chwech deg munud mewn awr.
Mae'r bys mawr a'r bys bach ar gloc analog yn dweud wrthyn ni faint o'r gloch ydy hi.

Time
There are sixty minutes in an hour.
The minute hand and the hour hand on an analogue clock tell us what the time is.
Pan mae'r bys mawr (y bys munud) ar rif 12, mae hyn yn golygu mae hi'n rhywbeth o'r gloch.
Mae'r bys bach yn dweud yr awr wrthyn ni. Felly, os mae'r bys mawr ar rif 12 a'r bys bach ar rif 10, fel yn y llun, mae hi'n ddeg o'r gloch (10 o'r gloch).
When the minute hand (the big hand) is on the number 12, this means that is is something o'clock.
The hour hand (the small hand) tells us the hour. Therefore, if the minute hand (big hand) is on number 12 and the hour hand (small hand) is on number 10, like in the picture, it is ten o' clock (10 o'clock).

Gweithgaredd / Activity
Lawrlwytha'r daflen waith isod o wefan Twinkl.
Download the worksheet from the Twinkl website.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

