
Ffocws dysgu
Dysga ddefnyddio sgiliau mesur i fesur a chyfrifo perimedrau sgwariau a phetryalau.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- dau weithgaredd
Learning focus
Learn to use measuring skills to measure and calculate the perimeter of squares and rectangles.
This lesson includes:
- one video
- two activities

Fideo / Video
Sut i gyfrifo perimedr siâp.
Beth yw perimedr?
Pa mor bell wyt ti am gerdded heddiw?
Felly rwyt ti'n mynd i gerdded o amglych y parc i gyd?
Yr enw sy'n cael ei roi i ochr allanol siâp yw perimedr.
Mae'n rhwydd gwybod pa mor bell wyt ti'n mynd i gerdded.
Ryn ni'n mesur y perimedr.
Sawl cam mae'n ei gymryd i ti gerdded ar hyd yr ochr gyntaf?
Deg cam. Iawn.
A nawr, sawl cam mae'n ei gymryd i gerdded o amgylch yr ochr nesa?
Chwe cham. Iawn.
A nawr am yr ochr nesa.
Deg cam eto. A nawr yn ôl i ble ddechreuaist ti. Chwech.
Felly pa mor bell yw hi i fynd yr holl ffordd o gwmpas?
Mae angen adio hyd pob ochr at ei gilydd i ddarganfod pa mor bell yw hi i fynd yr holl ffordd o gwmpas.
Deg adio chwech adio deg adio chwech yw 32.
Byddi di'n cerdded 32 cam os ei di yr holl ffordd o amgylch y perimedr.
Nodiadau i rieni
- Yr enw sy’n cael ei rhoi i ochr allanol siâp yw perimedr.
- Yn gyntaf mae angen mesur hyd pob ochr.
- Yna rhaid adio hyd pob ochr i ddarganfod y perimedr.
- Hynny yw 6 + 10 + 6 + 10 = 32 cm.
Notes for parents
- The name given to the outside of a shape is a perimeter.
- Firstly, you need to measure every side of the shape.
- Then, you need to add each side together to find the perimeter.
- So, 6 + 10 + 6 + 10 = 32 cm.


Cyfrifo perimedr
Y perimedr yw pellter yr holl ffordd o gwmpas ochr allanol siâp 2D.
I gyfrifo’r perimedr, adia hyd pob ochr.


Gweithgaredd 1 / Activity 1
Cyfrifa berimedr y parc.
Calculate the perimeter of the park.

Gweithgaredd 2 / Activity 2
Cyfrifa berimedr y parc.
Calculate the perimeter of the park.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
