
Ffocws dysgu
Dysga sut i ddefnyddio strategaethau meddwl i adio a thynnu rhifau 2 ddigid.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- un gweithgaredd
Learning focus
Learn how to use mental strategies to add and subtract 2 digit numbers.
This lesson includes:
- one video
- one activity

Fideo / Video
Beth am ddod am dro i mewn i ymennydd Albert i ddarganfod sut i wneud mathemateg y pen?
Sut i adio a thynnu yn eich pen
Dwyt ti ddim yn gallu defnyddio cyfrifiannell neu bapur a phensil i wneud sym bob tro.
Weithiau rhaid defnyddio dy ben sy'n gallu bod yn gyflymach!
Dim ond un rheol sydd pan ddaw hi i fathemateg y pen.
Os yw e'n gweithio i ti, yna mae'n iawn!
Dyma rai awgrymiadau i ddechrau.
Mae'n haws adio grwpiau cyfan o ddegau felly gallwn roi'r chwech naill ochr, sy'n rhoi 50 i ni.
Paid â thaflu'r chwech i ffwrdd, bydd ei angen e nes mlaen.
Mae gyda ni 20 a 50 ar ôl, sy'n rhoi 70 i ni.
Der a'r chwech 'na nôl, a dyna'n cyfanswm ni!
Gallwn ddefnyddio grwpiau cyfan o ddeg i wneud tynnu'n haws hefyd.
Os ydyn ni'n newid yr wyth yma i ddeg gan gyfri ymlaen dau yna mae'n ei wneud yn haws i dynnu.
Cofia gadw gafael ar y dau yna!
Felly mae 46 tynnu deg yn 36.
A nawr i adio'r dau.
I roi ateb o 38.
Hefyd gyda thynnu gallwn ni gyfri ymlaen o'r rhif lleiaf i'r mwyaf i ddod o hyd i'r ateb.
Felly gyda 30 tynnu 27 gallwn gyfri ymlaen o 27 i 30 i roi tri.
Gwych iawn Albert!
Ahem.
Nodiadau i rieni
- Mae’n haws adio grwpiau cyfan o ddegau, felly wrth edrych ar 20 + 56, anghofia am y 6 (am y tro!).
- Gallet adio 20 a 50 i wneud 70.
- Yna, dere â'r 6 yn ôl a’i adio i’r cyfanswm, 70 + 6 yw 76.
- Gallwn ddefnyddio’r un strategaeth i dynnu. Wrth edrych ar 46 - 8, rhaid troi’r 8 yn 10 gan adio 2. Cadwa'r 2 yn ddiogel am y tro!
- Felly mae 46 - 10 yn gwneud 36. Yna, dere â'r 2 yn ôl a’i adio i wneud 38.
- Gallet hefyd dynnu wrth gyfrif ymlaen o’r rhif lleiaf i’r rhif mwyaf. Yn y swm 30 - 27, rydym yn cyfrif ymlaen o 27 (rhif lleiaf) nes ein bod yn cyrraedd 30 (rhif mwyaf), sef 3 (28,29,30). Felly'r ateb yw 3.
Notes for parents
- It’s easier to add whole groups of ten. So when we look at 20 + 56, we must forget about the 6 (for the time being!).
- You can now add 20 + 50 to make 70.
- Now, bring back the 6 and add it to the total, making 76.
- We can use the same strategy to subtract. If we look at 46 - 8, we must first make the 8 a 10 by adding 2. Keep the 2 safe for the time being.
- So we now have 46 - 10 which is 36. Now bring back the 2 and add it to the total to make 38.
- You can also subtract by counting forward from the smallest number to largest number. In the sum 30 - 27, count forward from 27 (smallest number) until you reach 30 (largest number) which is 3 (28,29,30). So the answer is 3.


Talgrynnu rhifau
Mae talgrynnu rhifau i’r 1, 10 neu 100 agosaf yn gallu helpu gyda llawer o broblemau mathemateg pen.
- I adio 9 at rif arall, adia 10 ac wedyn tynnu 1:
36 + 9 = 36 + 10 - 1 = 45 - I adio 18 at rif arall, adia 20 ac wedyn tynnu 2:
48 + 18 = 48 + 20 - 2 = 66 - I adio 97 at rif arall, adia 100 ac wedyn tynnu 3:
439 + 97 = 439 + 100 - 3 = 536 - I adio 0.9 at rif arall, adia 1 ac wedyn tynnu 0.1:
3.7 + 0.9 = 3.7 + 1 - 0.1 = 4.6

Datod rhifau
Mae datod rhifau’n gallu dy helpu i adio neu dynnu yn dy ben. Er enghraifft, i ganfod y gwahaniaeth rhwng 38 a 63.
- Rhifa ymlaen o 38 i 40 a chadw’r 2 yna yn dy ben.
- Nawr rhifa ymlaen o 40 i 60, sy’n rhoi 20.
- Yn olaf, rhifa o 60 i 63, sy’n rhoi 3.
- Adia nhw at ei gilydd: 2 + 20 + 3 = 25.

Gweithgaredd / Activity
Gwna’r symiau adio isod yn dy ben.
Make the addition sums below in your head.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
