Creu gwahoddiad

Part ofLearn & revise

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Cyflwyniad ar sut i greu gwahoddiad
  • Cymharu dau wahoddiad priodas
  • Un gweithgaredd yn ymwneud â berfau gorchmynnol
  • Un gweithgaredd i greu gwahoddiad

Lesson content

  • An introduction on how to create an invitation
  • Compare two wedding invitations
  • One activity involving imperative verbs
  • One activity to create an invitation
Llinell / Line

Gwahoddiad

Rhaid cynnwys sawl darn pwysig o wybodaeth mewn gwahoddiad ac mae’n rhaid i’r wybodaeth gael ei throsglwyddo mor glir â phosib i’r darllenydd.

Ystyria:

  • defnydd o liw a llun
  • pennawd bachog
  • gosod y manylion yn ddarllenadwy
  • defnydd o ferfau gorchmynnol
  • sicrhau bod y gwahoddiad cyfan yn dal sylw’r darllenydd
Llinell / Line

Gweithgaredd 1 / Activity 1

Astudia’r ddau wahoddiad i briodas Pwyll a Rhiannon. Pa un o’r gwahoddiadau yw’r gorau yn dy farn di? Ysgrifenna’r ateb yn llawn.

Ystyria'r canlynol:

  • y defnydd o frawddegau llawn
  • y defnydd o ffont
  • y defnydd o liw
  • y defnydd o ddelweddau/graffeg
  • yr amrywiaeth ym maint y ffont, ee pennawd
  • yr arddull hen ffasiwn / modern

Nid oes ateb cywir, ond rhaid i ti drafod pa un sydd fwyaf effeithiol yn dy farn di a pham.

Llinell / Line

Gweithgaredd 2 / Activity 2

Rwyt ti’n defnyddio gorchymyn er mwyn dweud wrth rywun beth i’w wneud.

Mae dwy ffurf i bob gorchymyn – 'ti' a 'chi':

  • defnyddia ‘ti’ wrth ysgrifennu’n anffurfiol
  • defnyddia ‘chi’ wrth ysgrifennu at fwy nag un person, neu wrth ysgrifennu’n ffurfiol

Wrth lunio gwahoddiad priodas, gan dy fod yn ysgrifennu’n ffurfiol, bydd angen i ti ddefnyddio’r ffurf ‘chi’.

Newida’r geiriau sydd yn y cromfachau i ferfau gorchmynnol gan ddefnyddio 'chi'.

  1. (Rhedeg) chi o amgylch y cae bedair gwaith.
  2. (Ysgrifennu) yn daclus yn eich llyfrau.
  3. (Eistedd) chi i lawr a (bod) yn ddistaw.
  4. (Ceisio) orffen eich gwaith cartref cyn mynd i’r gwely.
  5. (Cofio) godi’n gynnar yfory.
  6. (Darllen) eich straeon, blant. Maen nhw’n wych.
  7. (Prynu) laeth a bara ar eich ffordd adref.
  8. (Gweithio) yn galed yfory.
  9. (Brwsio) eich dannedd cyn mynd i’r gwely.
  10. (Peidio) â cherdded yn rhy agos i’r heol.

Clicia neu bwysa yma i weld os llwyddaist ti newid y geiriau’n gywir i'r ffurf orchmynnol gan ddefnyddio 'chi'.

Llinell / Line

Gweithgaredd 3 / Activity 3

Creu gwahoddiad i barti

Cer ati i greu gwahoddiad ar gyfer parti stryd.

Cofia fod angen:

  • pennawd bachog
  • manylion perthnasol, ee lleoliad, amser, dyddiad ac yn y blaen
  • lliw a llun
  • ffont amrywiol
  • berfau gorchmynnol
  • i’r gwahoddiad cyfan ddal sylw’r darllenydd
Llinell / Line

Nodiadau i rieni

Ar ôl gorffen y wers, bydd disgyblion yn:

  • gyfarwydd â’r nodweddion sydd eu hangen mewn gwahoddiad
  • medru creu gwahoddiad eu hunain

Notes for parents

After the lesson, students will be:

  • familiar with the characterisics needed in an invitation
  • able to create their own invitation

Hafan BBC Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan BBC Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU