
Ffocws dysgu
Dysga sut i ddefnyddio lluniau, symbolau, dilyniant o lythrennau a geiriau cyfarwydd i gyfleu ystyr.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- tri gweithgaredd
Learning focus
Learn to use pictures, symbols, letters in sequence and familiar words to communicate meaning.
This lesson includes:
- one video
- three activities
For an English version of this lesson, scroll below.

Fideo
Fesul awr, mae tri chloc yn canu am eu diwrnod.
Clociau yn canu am yr amser
CLOC 1 & 2 Faint o’r gloch ydy hi?
CLOC 3 Mae hi’n saith o’r gloch.
Mae hi’n wyth o’r gloch.
Mae hi’n naw o’r gloch.
CLOCIAU Mae hi’n amser ysgol.
Mae hi’n amser ysgol.
Hwrê!
CLOC 2 & 3 Faint o’r gloch ydy hi nawr?
CLOC 1 Mae hi’n ddeg o’r gloch.
Mae hi’n unarddeg o’r gloch.
Mae hi’n ddeuddeg o’r gloch.
CLOCIAU Mae hi’n amser cinio.
Mae hi’n amser cinio.
Iym iym!
CLOC 3 & 1 Faint o’r gloch ydy hi nawr?
CLOC 2 Mae hi’n un o’r gloch.
Mae hi’n ddau o’r gloch.
Mae hi’n dri o’r gloch.
O, mae hi’n hanner awr wedi tri.
CLOCIAU Mae hi’n amser mynd adre.
Mae hi’n amser mynd adre.
Ieeeeeei!
Mae hi’n bedwar o’r gloch.
Mae hi’n bump o’r gloch.
Mae hi’n chwech o’r gloch.
Mae hi’n saith o’r gloch.
Amser gwely bawb. Nos da.
Aaaaa! Mae hi’n amser codi eto!
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio’r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- dysgu cân newydd
- siarad am yr amser mewn brawddegau syml
- adnabod oriau ar gloc digidol 12 awr

Gweithgaredd 1
Darllena’r brawddegau isod a thynna lun i gyfateb â’r amser ym mhob brawddeg.

Enghraifft
Mae hi’n 1 o’r gloch.

- Mae hi’n 8 o’r gloch.
- Mae hi’n 2 o’r gloch.
- Mae hi’n 12 o’r gloch.
- Mae hi’n 6 o’r gloch.
- Mae hi’n 10 o’r gloch.

Gweithgaredd 2
Edrycha ar y clociau isod ac ysgrifenna’r amser ar gyfer pob un mewn brawddeg lawn.

Enghraifft
Mae hi'n 10 o'r gloch.



Gweithgaredd 3
Edrycha ar y tabl. Mae’n amserlen diwrnod yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog.
| Gweithgaredd | Amser | |
|---|---|---|
| Brecwast | 7 o’r gloch | |
| Nofio | 10 o’r gloch | |
| Cinio | 12 o’r gloch | |
| Merlota | 2 o’r gloch | |
| Swper | 6 o’r gloch |
Defnyddia’r tabl er mwyn ateb y cwestiynau isod. Cofia ysgrifennu mewn brawddegau llawn gyda phrif lythyren ar ddechrau brawddeg ac atalnod llawn ar y diwedd.
Enghraifft
Faint o’r gloch mae brecwast?
Mae brecwast am saith o’r gloch.
- Beth sy’n digwydd am 12 o’r gloch?
- Faint o’r gloch mae swper?
- Beth sy’n digwydd am 2 o’r gloch?
- Faint o’r gloch mae nofio?
- Beth sy’n digwydd am 7 o’r gloch?

Video
Every hour, three clocks sing about their day.
Clociau yn canu am yr amser
CLOC 1 & 2 Faint o’r gloch ydy hi?
CLOC 3 Mae hi’n saith o’r gloch.
Mae hi’n wyth o’r gloch.
Mae hi’n naw o’r gloch.
CLOCIAU Mae hi’n amser ysgol.
Mae hi’n amser ysgol.
Hwrê!
CLOC 2 & 3 Faint o’r gloch ydy hi nawr?
CLOC 1 Mae hi’n ddeg o’r gloch.
Mae hi’n unarddeg o’r gloch.
Mae hi’n ddeuddeg o’r gloch.
CLOCIAU Mae hi’n amser cinio.
Mae hi’n amser cinio.
Iym iym!
CLOC 3 & 1 Faint o’r gloch ydy hi nawr?
CLOC 2 Mae hi’n un o’r gloch.
Mae hi’n ddau o’r gloch.
Mae hi’n dri o’r gloch.
O, mae hi’n hanner awr wedi tri.
CLOCIAU Mae hi’n amser mynd adre.
Mae hi’n amser mynd adre.
Ieeeeeei!
Mae hi’n bedwar o’r gloch.
Mae hi’n bump o’r gloch.
Mae hi’n chwech o’r gloch.
Mae hi’n saith o’r gloch.
Amser gwely bawb. Nos da.
Aaaaa! Mae hi’n amser codi eto!
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
- learn a new song
- talk about the time in simple sentences
- read hours on a 12-hour digital clock

Activity 1
Read the sentences below and draw a picture to match the time in each sentence.

Example
Mae hi’n 1 o’r gloch.
(It is 1 o’clock.)

- Mae hi’n 8 o’r gloch. (It is 8 o'clock.)
- Mae hi’n 2 o’r gloch. (It is 2 o'clock.)
- Mae hi’n 12 o’r gloch. (It is 12 o'clock.)
- Mae hi’n 6 o’r gloch. (It is 6 o'clock.)
- Mae hi’n 10 o’r gloch. (It is 10 o'clock.)

Activity 2
Look at the clocks below and write the time for each one in a full sentence.

Example
Mae hi'n 10 o'r gloch. (It is 10 o'clock.)



Activity 3
Look at the table. It is a daily timetable at Llangrannog Urdd Camp.
| Gweithgaredd (Activity) | Amser (Time) | |
|---|---|---|
| Brecwast (breakfast) | 7 o’r gloch (7 o'clock) | |
| Nofio (swimming) | 10 o’r gloch (10 o'clock) | |
| Cinio (lunch) | 12 o’r gloch (12 o'clock) | |
| Merlota (pony trekking) | 2 o’r gloch (2 o'clock) | |
| Swper (dinner/supper) | 6 o’r gloch (6 o'clock) |
Use the table to answer the questions below. Remember to write in full sentences, with a capital letter to begin the sentence and a full stop at the end.
Example
Faint o’r gloch mae brecwast? (What time is breakfast?)
Mae brecwast am saith o’r gloch. (Breakfast is at seven o’clock.)
- Beth sy’n digwydd am 12 o’r gloch? *(What happens at 12 o’clock?) *
- Faint o’r gloch mae swper? (What time is supper?)
- Beth sy’n digwydd am 2 o’r gloch? (What happens at 2 o’clock?)
- Faint o’r gloch mae nofio? (What time is swimming?)
- Beth sy’n digwydd am 7 o’r gloch? (What happens at 7 o’clock?)

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
