
Ffocws dysgu
Ymarfera gyfrif hyd at ddeg.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- un gweithgaredd
Learning focus
Practise counting up to ten.
This lesson includes:
- one video
- one activity
Wedi ei chreu mewn partneriaeth â Twinkl.

Fideo / Video
Mae dau ffrind yn chwarae gemau yn y ffair.
Two friends play games at the fair.
BETHAN Www, dw i’n edrych ymlaen at y ffair. Edrycha, stondin cnau coco! Un, dau. Mae’n rhaid taro’r cnau coco i lawr! Dw i eisiau tro! Does gen i ddim arian. Faint o arian sydd gen ti?
CHARLIE Mae un, dwy, tair punt gyda fi.
BETHAN Ga i fenthyg punt os gweli di’n dda?
CHARLIE Cei.
BETHAN Diolch. Un, dau! Ieeei! Dw i wedi ennill dau docyn. Edrycha, stondin bachu hwyaid! Un, dwy, tair, pedair. Mae’n rhaid bachu pedair hwyaden! Dw i eisiau tro! Ga i fenthyg punt eto os gweli di’n dda?
CHARLIE Cei.
BETHAN Un, dwy, tair, pedair! Ieeei! Dw i wedi ennill pedwar tocyn. Edrycha, stondin hŵpla! Un, dau, tri, pedwar. Mae’n rhaid taflu’r cylchoedd o gwmpas y pedwar côn. Dw i eisiau tro!
CHARLIE Dyma ti.
BETHAN Un, dau, tri, pedwar! Ieeeei! Dw i wedi ennill pedwar tocyn!
CHARLIE Sawl tocyn sydd gyda ti?
BETHAN Un, dau, tri, pedwar, pump, chwech, saith, wyth, naw, deg! Mae gen i ddeg tocyn. Ga i wobr dda rŵan.
CHARLIE O, diolch. Dw i'n mynd i alw'r ci yn Smot! Smot yw'r ci gorau yn y byd i gyd.
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- cyfrif yn hawdd o un i ddeg
- deall bod angen defnyddio arian i dalu am bethau
- deall beth yw gwerth arian
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
- count easily from one to ten
- understand that money is used to pay for things
- understand the value of money

Gweithgaredd / Activity
Lawrlwytha'r daflen waith isod o wefan Twinkl a chyfra faint o wrthrychau sydd ym mhob llinell.
Download the worksheet from the Twinkl website and count how many objects are in each line.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

