
Ffocws dysgu
Dysga sut i ddefnyddio’r treigladau mwyaf cyffredin yn gywir, ee fy nghalon.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- dau fideo
- tri gweithgaredd
Learning focus
Learn how to use the most common mutations correctly, eg fy nghalon.
This lesson includes:
- two videos
- three activities
For an English version of this lesson, scroll below.

Beth yw'r treiglad trwynol?
Mae treiglo yn bwysig iawn os wyt ti eisiau siarad ac ysgrifennu’n gywir yn Gymraeg.
Mae tri math o dreiglad yn Gymraeg:
- treiglad meddal
- treiglad llaes
- treiglad trwynol
Dyma’r rheolau ar gyfer y treiglad trwynol.
Mae’r tabl canlynol yn dangos pa lythrennau sy’n newid wrth ddefnyddio’r treiglad trwynol.
| Llythyren | Treiglad trwynol | ||
|---|---|---|---|
| p | > | mh | |
| t | > | nh | |
| c | > | ngh | |
| b | > | m | |
| d | > | n | |
| g | > | ng |
Mae’r treiglad trwynol yn cael ei ddefnyddio ar ôl y gair 'fy'.
Dyma rai enghreifftiau:
- fy + pen > fy mhen
- fy + trwyn > fy nhrwyn
- fy + calon > fy nghalon
- fy + gardd > fy ngardd
- fy + bys > fy mys
- fy + dosbarth > fy nosbarth

Defnyddio 'fy'
Un patrwm brawddeg anghywir efallai dy fod wedi clywed yw:
- mam fi…
- mam-gu fi…
- afal fi… ac yn y blaen
Dydy'r patrwm yma ddim yn gywir.
Dylet ti ddechrau gyda fy… yn lle , er enghraifft:
- fy mam
- fy mam-gu
- fy afal
Mae geiriau sy'n dilyn fy yn treiglo'n drwynol os yw'r llythyren gyntaf yn dechrau gyda:
- c, p, t, g, b, d
Ond does dim angen treiglad trwynol ar ôl fy os yw gair yn dechrau gyda llythyren sydd ddim yn y rhestr uchod.
Dyma rai enghreifftiau lle does dim newid i'r llythyren ar ôl y gair 'fy':
- __a__fal > fy afal
- __ch__waer > fy chwaer
- __ll__inell > fy llinell
- __s__elsig > fy selsig

Fideo 1
Mae'r athro'n egluro pa chwe llythyren sy'n cymryd y treiglad trwynol ar ôl 'fy'.

Gweithgaredd 1
Edrycha eto ar y chwe llythyren sy'n newid ar gyfer y treiglad trwynol. Wyt ti'n cofio'r newidiadau? Er enghraifft, mae c yn troi yn ngh.
c > ngh
p > ?
t > ?
g > ?
b > ?
d > ?
Ysgrifenna'r atebion ar ddarn o bapur, neu yn ddigidol.
Clicia yma i weld atebion gweithgaredd 1 ar gyfer Treiglad trwynol ar ôl 'fy'.

Fideo 2
Wyt ti'n cofio pa lythrennau sy'n newid ar ôl 'fy' oherwydd y treiglad trwynol? Gwylia'r fideo i weld rhagor o enghreifftiau.

Gweithgaredd 2
Rho ‘fy’ o flaen y geiriau canlynol. Cofia dreiglo'n gywir. Bydda'n ofalus - does dim angen treiglo pob un o'r geiriau. Wyt ti'n gallu dyfalu pa eiriau sydd angen treiglad trwynol ar ôl 'fy'?
- afal
- bag
- pensil
- cath
- llyfr
- cwsg
- gwely
- dant
- trowsus


Gweithgaredd 3
Beth am dreulio pum munud yn chwilio am bethau gwahanol o gwmpas y tŷ a'r ardd? Dangosa'r eitemau i rywun arall a chyflwyna bob un gan ddechrau gyda 'fy'.
Enghreifftiau
- pêl rygbi > fy mhêl rygbi
- brws dannedd > fy mrws dannedd
- cas pensiliau > fy nghas pensiliau
- potel > fy mhotel


What is a nasal mutation?
Mutation is very important if you want to speak and write correctly in Welsh.
There are three types of mutation in Welsh:
- soft mutation
- aspirate mutation
- nasal mutation
Here are the rules for the nasal mutation.
The following table shows which letters change when using the nasal mutation.
| Letter | Nasal mutation | ||
|---|---|---|---|
| p | > | mh | |
| t | > | nh | |
| c | > | ngh | |
| b | > | m | |
| d | > | n | |
| g | > | ng |
The nasal mutation is used after the word ‘fy’ (my).
Here are some examples:
- fy + pen > fy mhen (my + the unmutated form 'head' > my head)
- fy + trwyn > fy nhrwyn (my + the unmutated form 'nose' > my nose)
- fy + calon > fy nghalon (my + the unmutated form 'heart' > my heart)
- fy + gardd > fy ngardd (my + the unmutated form 'garden' > my garden)
- fy + bys > fy mys (my + the unmutated form 'finger' > my finger)
- fy + dosbarth > fy nosbarth (my + the unmutated form 'class' > my class)

Using ‘fy’
One incorrect sentence pattern you may have heard is:
- mam fi… * for 'my mother', which literally translates as ‘mother me’*
- mam-gu fi… for 'my grandmother'
- afal fi… ac yn y blaen for 'my apple' and so on
This pattern is incorrect.
You should begin withfy… instead, for example:
- fy mam (my mother)
- fy mam-gu (my grandmother)
- fy afal (my apple)
Any words followingfywill need to have a nasal mutation if the first letter of the word begins with one of the following:
- c, p, t, g, b, d
A nasal mutation is not needed afterfyif the word begins with any letter that isn’t in the above list.
Here are some examples where a nasal mutation is not needed after the word ‘fy’:
- __a__fal > fy afal (apple > my apple)
- __ch__waer > fy chwaer (sister > my sister)
- __ll__inell > fy llinell (line > my line)
- __s__elsig > fy selsig (sausage > my sausage)

Video 1
The teacher explains which six letters take the nasal mutation after 'fy' (my).

Activity 1
Look again at the six letters that take the nasal mutation. Do you remember the changes? For example,cchanges tongh.
c > ngh
p > ?
t > ?
g > ?
b > ?
d > ?
Write down the answers on a piece of paper or digitally.
Click here for to see the changes needed for the nasal mutation.

Video 2
Do you remember which letters change after 'fy' (my) because of the nasal mutation? Watch this video to see more examples.

Activity 2
Put the word 'fy' (my) in front of the following words. Remember to mutate correctly. Be careful - you don't have to mutate all of the words. Can you work out which words need the nasal mutation after 'fy'?
- afal
- bag
- pensil
- cath
- llyfr
- cwsg
- gwely
- dant
- trowsus


Activity 3
Spend five minutes looking for different objects around the house and the garden. Show the items to someone else and introduce each one by starting with 'fy' (my).
Examples
- pêl rygbi > fy mhêl rygbi (my rugby ball)
- brws dannedd > fy mrws dannedd (my toothbrush)
- cas pensiliau > fy nghas pensiliau (my pencil case)
- potel > fy mhotel (my bottle)


Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
