
Ffocws dysgu
Dysga ddefnyddio sgiliau rhif i adio a thynnu ffracsiynau sydd â’r un enwadur.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- tri gweithgaredd
Learning focus
Learn to use number skills to add and subtract fractions with the same denominator.
This lesson includes:
- one video
- three activities

Fideo / Video
Mae gofodwr yn defnyddio ffracsiynau i gyfrifo a oes digon o danwydd ganddo.
An astronaut uses fractions to calculate if he has enough fuel to get home.
Sut i adio a thynnu ffracsiynau
Tri, dau, un, i ffwrdd â ni!
Wow, roedd lansio'r roced wedi defnyddio pum wythfed o dy danwydd.
Os ddefnyddiaist ti pump wythfed o dy danwydd i lansio, a dau wythfed arall i gyrraedd y fan hon,faint o danwydd wyt ti 'di defnyddio?
I adio ffracsiynau sydd â'r un enwadur rwyt ti'n adio'r rhifiaduron.
Ac os wyt ti wedi dechrau gyda wyth wythfed, wedi defnyddio saith wythfed, faint o danwydd sydd da ti i fynd adre?
Aros funud! Oes tanc sbâr o danwydd da ti?
Ar gyfer pob ffracsiwn rhaid i ni ddarganfod ffracsiwn cyfatebol arall sydd gyda'r un enwadur - bydd enwadur y ffracsiwn newydd yn lluosrif o wyth a deuddeg fel, ie, dau ddeg pedwar!
Nawr bod gan y ddau yr un enwadur gallwn eu hadio trwy adio'r rhifiaduron.
Mae gen ti ddigon i fynd adre!
Nawr, faint o ocsigen sy' da ti ar ôl?
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio'r fideo, dylai'r disgyblion wybod:
- mai enwadur yw enw'r rhif ar waelod ffracsiwn
- bod angen i'r enwadur fod yr un peth er mwyn gallu adio ffracsiynau
- bod modd adio ffracsiynau gyda'r un enwadur trwy adio'r rhifiaduron
- os oes enwaduron gwahanol gan y ffracsiynau, yna rhaid eu trosi i ffracsiynau cyfwerth gydag enwaduron yr un peth er mwyn eu hadio
Notes for parents
After watching the video, students should know:
- that the number at the bottom of a fraction is called the denominator
- that the denominator needs to be the same in order to add fractions
- that fractions with the same denominator can be added by adding the numerators
- that if fractions have different denominators they need to be converted into equivalent fractions with the same denominator in order to add them


Adio a thynnu ffracsiynau
Enwaduron cyffredin
Mae’n hawdd adio a thynnu ffracsiynau pan fo’r rhifau o dan y llinell yr un fath.
Yr enwadur yw’r rhif o dan y llinell.


Ffracsiynau cyfwerth
Ond weithiau mae’r enwaduron yn wahanol.
Rhaid defnyddio ffracsiynau cyfwerth i’w gwneud nhw yr un fath.
Lluosrif cyffredin i 2 a 3 ydy 6.
Felly, ar gyfer pob ffracsiwn mae angen ffracsiwn cyfwerth gyda 6 yn enwadur.
Nawr gelli di adio’r rhain gyda’i gilydd.


Gweithgaredd 1 / Activity 1
Adia’r ffracsiynau.
Add the fractions.

Gweithgaredd 2 / Activity 2
Tynna’r ffracsiynau.
Subtract the fractions.

Gweithgaredd 3 / Activity 3
Adia’r ffracsiynau.
Add the fractions.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
