
Ffocws dysgu
Dysga ddatrys problemau syml sy’n cynnwys tynnu.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- un gweithgaredd
Learning focus
Learn to solve simple problems that involve subtraction.
This lesson includes:
- one video
- one activity

Wedi ei chreu mewn partneriaeth â Twinkl.
Tynnu / Subtraction
Ystyr tynnu yw dod o hyd i'r gwahaniaeth rhwng dau werth.
Subtraction is when you find the difference between two values.

Fideo / Video
Gwylia'r fideo er mwyn deall sut i dynnu.
Find out how to subtract, or take away, with this video.
Sut i dynnu
Reit 'ta – un o fy hoff bethau mathemategol… sef tynnu rhif, neu gael hyd i’r gwahaniaeth.
Dyma’r symbol i’w ddefnyddio os ydyn ni eisiau tynnu un peth o’r llall.
Er enghraifft, mae pump llygad ar gyfer unrhyw estron o’r gofod yn ormod a dweud y gwir. Felly, os ydyn ni’n tynnu pedwar llygad - tah-dah! – mae pump tynnu pedwar yn gadael un llygad! Diolch i bŵer anhygoel y symbol tynnu.
Be am drio un arall?
Mae dau deimlydd, tynnu dau deimlydd, yn hafal i sero teimlydd. Ti’m yn meindio hyn nagwyt, Albert?
O, sori Albert! Roedd hynny’n gymaint o hwyl – ond aethon ni’n rhy bell, do?
Ond paid â phoeni, adio ydy’r gwrthwyneb i dynnu.
Oes gen ti beiriant adio gallwn ni ei ddefnyddio, Jerry…?
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio'r wers bydd disgyblion yn gallu:
- adnabod y symbol tynnu a deall ei ystyr
- gwneud symiau tynnu syml
Notes for parents
After watching the lesson pupils will be able to:
- recognise the subtraction symbol and understand its meaning
- carry out simple subtraction sums

Gweithgaredd / Activity
Clicia ar yr icon Twinkl isod er mwyn lawrlwytho'r daflen tynnu.
Click on the Twinkl icon below to download the subtraction worksheet.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

