
Ffocws dysgu
Dysga addasu’r hyn rwyt ti'n ei ysgrifennu yn ôl y diben a’r darllenydd, gan ddewis geiriau’n addas, ee iaith ddisgrifiadol ac iaith berswadiol.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- pedwar gweithgaredd perthnasol
Learning focus
Learn how to adapt what you write to the purpose and reader, choosing words appropriately, eg descriptive and persuasive language
This lesson includes:
- four relevant activities
Wedi ei chreu mewn partneriaeth â Twinkl.
For an English version of this lesson, scroll below.

Beth yw ysgrifennu perswadiol?
Mae ysgrifennu perswadiol yn annog y darllenydd i gredu mewn syniad neu farn, neu i weithredu ar rywbeth.
Mae ysgrifennu perswadiol yn bwysig wrth geisio berswadio rhywun i brynu rhywbeth penodol, er enghraifft gwyliau.


Cyfle unwaith ac am byth…
Mae ysgrifennu perswadiol yn gallu lledaenu gwybodaeth am bwnc neu ddigwyddiad penodol. Dyma rai enghreifftiau o waith sy'n cynnwys y math yma o ysgrifennu:
- hysbyseb radio neu deledu
- hysbyseb prynu a gwerthu ar-lein
- hysbyseb mewn cylchgrawn
- hysbyseb ar ochr bws
- taflen wybodaeth
- poster
- hysbysfwrdd

Mae modd cynllunio dy waith er mwyn apelio at bobl wahanol. Er enghraifft:
- grŵp o bobl sy’n rhannu yr un diddordeb
- yr henoed
- teuluoedd
- pâr newydd briodi
- rhywun ar gyllideb sy'n ceisio arbed arian
- rhywun sydd eisiau moethusrwydd
- ymwelydd
Cyn ysgrifennu'n berswadiol ar gyfer hysbyseb, mae angen i ti feddwl pwy yw dy gynulleidfa. Mae angen i ti feddwl am y bobl hynny wrth ddewis dy eiriau.


Gweithgaredd 1
Pwy wyt ti'n meddwl yw'r gynulleidfa darged ar gyfer y brawddegau canlynol?
- Prynwch y dolenni diogel yma i'ch helpu i gamu i mewn i'r bath.
- Cyngor teithio cyn cyngherddau Ed Sheeran yng Nghaerdydd.
- Dewch ar eich mis mêl, am brofiad bythgofiadwy, i Dde Affrica.
- Dechreuwch y bore gyda choffi a thost am 99c!
- Arwerthiant arbennig o geir moethus a chychod hwylio yn Mayfair, Llundain.
- Dewch am daith y tu ôl i'r llenni yn un o amgueddfeydd gorau Paris.
Clicia yma i weld atebion gweithgaredd 1 ar gyfer y wers Ysgrifennu perswadiol..

Sut mae ysgrifennu perswadiol yn helpu i werthu cynnyrch neu wasanaeth?
- Mae’n gymorth i anelu’r hysbyseb at fath arbennig o gwsmer.
- Mae’n rhoi neges bositif am y cynnyrch neu’r gwasanaeth.
- Mae’n apelio at bersonoliaeth y darllenwr.
- Ei bwrpas yw gwerthu rhywbeth.
- Mae ysgrifennu perswadiol yn datblygu dadleuon rhesymegol.

Dewis geiriau yn ofalus
Mae hysbysebion yn creu cysylltiad emosiynol ac yn gwneud i ddarllenwyr gredu ynddynt a'u perswadio i brynu a defnyddio’r nwyddau. Yn aml, mae'r iaith mewn hysbyseb yn gwneud i'r darllenwr feddwl am bethau penodol.
Er enghraifft, ydy'r hysbyseb yn gwneud i'r darllenydd deimlo'n hapusach, yn fwy iachus neu'n fwy ffasiynol?


Wrth ysgrifennu'n berswadiol rhaid dewis a defnyddio geiriau ac ymadroddion yn ofalus. Rhaid defnyddio iaith apelgar.
Dyma rai enghreifftiau:
- bargen
- am ddim
- anhygoel
- brysiwch
- hudolus
- cynnig unigryw
- cyfle unwaith ac am byth
Cofia ddefnyddio cymysgedd o ffeithiau. Mae angen canolbwyntio ar y pethau positif a defnyddio dywediadau bachog.


Gweithgaredd 2
Pa hysbyseb sydd wedi dal dy sylw yn ddiweddar? Pam?
Edrycha ar hysbysebion ar y teledu, mewn papurau newyddion, cylchgronau ac ar-lein.
- Ydy'r iaith yn apelgar?
- Ydy'r geiriau yn dal dy sylw?
- At bwy mae'r iaith yn apelio?

Beth mae hysbysebion yn addo i bobl?
Mae modd i ti ysgrifennu'n berswadiol i ddangos bod y gwasanaeth neu'r nwyddau yn creu hapusrwydd, yn gwneud bywyd yn haws ac yn rhywbeth positif iawn i'r darllenydd.
Dyma rai enghreifftiau:
- mae'r gwasanaeth yn datrys dy broblemau ac yn gwneud bywyd yn haws
- dyma’r cynnyrch gorau, sydd wedi ennill gwobrau
- mae’r bobl cŵl i gyd yn defnyddio’r cynnyrch – byddi di’n cŵl hefyd os wnei di eu prynu
- fe fyddi di'n teimlo’n hapusach ac yn edrych yn well ar ôl defnyddio hwn
- byddi di'n colli allan os na wnei di brynu’r cynnyrch
- mae hwn yn gyfle unwaith ac am byth
Sut mae hysbysebion yn cydio yn nychymyg pobl?
Mae hysbysebion da yn defnyddio amryw o dechnegau gan gynnwys:
- synhwyrau, er enghraifft blas ac arogl
- cwestiynau i ddenu dy sylw, er enghraifft "Oeddet ti'n gwybod…?"
- hiwmor i wneud i ti chwerthin
- sylwadau positif gan gwsmeriaid eraill
- cyflythrennu ac odli i ddod o hyd i iaith fachog mae pobl yn cofio

Gweithgaredd 3
Lawrlwytha'r daflen waith isod, wedyn defnyddio dis i ddewis colofn yn y daflen.
Beth am greu darn o waith, gydag ysgrifennu perswadiol, sy'n seiliedig ar y wybodaeth yn y golofn?

Gweithgaredd 4
Lawrlwytha'r daflen waith isod. Beth am greu hysbyseb addas, yn seiliedig ar y wybodaeth yn y daflen?

Ysgrifennu Perswadiol ar Ffurf Hysbysebion

What is persuasive writing?
Persuasive writing encourages the reader to believe in an idea or opinion, or to take action.
Persuasive writing is important when trying to persuade someone to buy something specific, for example, a holiday.


A once in a lifetime opportunity…
Persuasive writing can promote information about a certain topic or event. Here are some examples of work which include this type of writing:
- radio or television adverts
- *buying and selling adverts online *
- magazine adverts
- adverts on the side of a bus
- information leaflets
- posters
- notice boards

You can design your work to appeal to different people. For example:
- a group of people who share the same interest
- elderly people
- families
- newlyweds
- someone on a budget who’s trying to save money
- someone who wants luxury
- visitors
Before writing persuasively for an advert, you need to consider who your audience is. You need to think of those people when choosing your words.


Activity 1
Who do you think is the target audience for the following sentences?
- Prynwch y dolenni diogel yma i'ch helpu i gamu i mewn i'r bath. (Buy these safe handles to help you step into the bath.)
- Cyngor teithio cyn cyngherddau Ed Sheeran yng Nghaerdydd. (Travel advice before Ed Sheeran's concerts in Cardiff.)
- Dewch ar eich mis mêl, am brofiad bythgofiadwy, i Dde Affrica. (Come on your honeymoon, for an unforgettable experience, to South Africa.)
- Dechreuwch y bore gyda choffi a thost am 99c! (Start your morning with coffee and toast for 99p!)
- Arwerthiant arbennig o geir moethus a chychod hwylio yn Mayfair, Llundain. (Special sale of luxury cars and sailing boats in Mayfair, London.)
- Dewch am daith y tu ôl i'r llenni yn un o amgueddfeydd gorau Paris. (Come for a tour behind the scenes at one of Paris' best museums.)
Click here for the answers to activity 1 for lesson Ysgrifennu perswadiol.

How can persuasive writing help you sell products or services?
- It helps to aim the advert at a specific type of customer.
- It presents a positive message about the product or service.
- It appeals to the reader’s personality.
- Its purpose is to sell something.
- Persuasive writing develops logical arguments.

Choose your words carefully
Adverts make an emotional connection and make the reader believe in them, and persuade them to buy and use the products. The language in an advert usually makes the reader think about particular things.
For example, does the advert make the reader feel happier, healthier or more fashionable?


When using persuasive language, you must choose and use words and expressions carefully. You must use appealing language.
Here are some examples:
- bargen (bargain)
- am ddim (free)
- anhygoel (amazing)
- brysiwch (hurry)
- hudolus (magical)
- cynnig unigryw (unique experience)
- cyfle unwaith ac am byth (a once in a lifetime opportunity)
Remember to use a variety of facts. You need to concentrate on the positive things and use catchy phrases.


Activity 2
Which advert has caught your attention lately? Why?
Look at adverts on the television, in newspapers, magazines and on-line.
- Is the language appealing?
- Do the words grab your attention?
- Who does the language appeal to?

What do adverts promise people?
You can write persuasively to show that the service or product creates happiness, makes life easier, and is something very positive for the reader.
Here are some examples:
- mae'r gwasanaeth yn datrys dy broblemau ac yn gwneud bywyd yn haws (the service solves your problems and makes life easier)
- dyma’r cynnyrch gorau, sydd wedi ennill gwobrau (this is an award-winning product of the finest quality)
- mae’r bobl cŵl i gyd yn defnyddio’r cynnyrch – byddi di’n cŵl hefyd os wnei di eu prynu (all the cool people are using the product – you’ll be cool too if you by it)
- fe fyddi di'n teimlo’n hapusach ac yn edrych yn well ar ôl defnyddio hwn (you will feel happier and look better after using this)
- byddi di'n colli allan os na wnei di brynu’r cynnyrch (you’ll miss out if you don’t buy the product)
- mae hwn yn gyfle unwaith ac am byth (this is a once in a lifetime opportunity)
How do adverts capture people's imagination?
Good adverts use a variety of techniques, including:
- the senses, for example, taste and smell
- questions to grab your attention, for example "Oeddet ti'n gwybod…?" (“Did you know…?”)
- humour to make you laugh
- positive comments by other customers
- using alliteration and rhyming to come up with a catchy phrase that people remember

Activity 3
Download the worksheet below. Roll a dice to select a column in the sheet.
Why not create a piece of work, with persuasive writing, based on the information given in the column?
Gweithgaredd dis
(Dice activity)


Activity 4
Download the worksheet below.Why not create a suitable advert, based on the information given in the sheet?
Hysbyseb
(Advert)


Ysgrifennu Perswadiol ar Ffurf Hysbysebion

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

