
Ffocws dysgu
Dysga am rythm, a sut i ymuno wrth ganu er mwyn ailadrodd neu ddysgu cân ar y cof.
Mae'r wers yn cynnwys:
- un gân syml: Sut mae’r tywydd?
- patrymau iaith syml: Sut mae’r tywydd? Ydy hi’n…?
- tri o weithgareddau perthnasol
Learning focus
Learn how to use rhythm and rhyme to create a simple chant, and how to join in, repeat or memorise a song.
This lesson includes:
- one song, Sut mae’r tywydd? (How’s the weather?)
- simple language patterns: Sut mae’r tywydd? (How’s the weather?) Ydy hi’n…? (Is it…?)
- three related activities
For an English version of this lesson, scroll below.

Fideo
Mae pedwar lolipop yn canu am y tywydd.
Canu am y tywydd
HUFEN IÂ Hei, sut mae’r tywydd heddiw?
LOLIPOP 1 Ydy hi’n ddigon braf i ni fynd mas?
LOLIPOP 2 Cer i edrych!
PAWB Sut mae’r tywydd heddiw?
LOLIPOP 3 Heddiw mae hi’n wyntog,
Yn wyntog, wyntog, wyntog,
Fel hyn mae hi yn yr hydref.
Rhy wyntog i ni fynd mas!
HUFEN IÂ Hei, sut mae’r tywydd heddiw?
LOLIPOP 1 Ydy hi’n ddigon braf i ni fynd mas?
LOLIPOP 3 Cer i edrych!
PAWB Sut mae’r tywydd heddiw?
LOLIPOP 2 Heddiw mae hi’n rhewi,
Yn rhewi, rhewi, rhewi,
Fel hyn mae hi yn y gaeaf.
Rhy oer i ni fynd mas!
LOLIPOP 2 Brrr – mae hi’n bwrw eira hefyd!
LOLIPOP 1 Hei, sut mae’r tywydd heddiw?
LOLIPOP 2 Ydy hi’n ddigon braf i ni fynd mas?
LOLIPOP 3 Cer i edrych!
PAWB Sut mae’r tywydd heddiw?
HUFEN IÂ Heddiw mae hi’n niwlog,
Yn niwlog, niwlog, niwlog,
Mae hi dal i fod yn aeaf.
Dw i methu gweld trwy'r niwl!
LOLIPOP 2 Hei, sut mae’r tywydd heddiw?
LOLIPOP 3 Ydy hi’n ddigon braf i ni fynd mas?
HUFEN IÂ Cer i edrych!
PAWB Sut mae’r tywydd heddiw?
LOLIPOP 1 Heddiw mae hi’n glawio,
Glawio, glawio, glawio,
Fel hyn mae hi yn y gwanwyn.
Rhy wlyb i ni fynd mas!
LOLIPOP 2 Hei, sut mae’r tywydd heddiw?
LOLIPOP 3 Ydy hi’n ddigon braf i ni fynd mas?
HUFEN IÂ Dewch bawb i edrych!
PAWB Heddiw mae hi’n braf,
Yn braf, braf, braf,
Fel hyn mae hi yn yr haf.
Ni’n dwlu ar dywydd braf! Iei!
HUFEN IÂ W, mae hi mor heulog!
LOLIPOP 2 Mae hi mor boeth!
LOLIPOP 1 Y tywydd perffaith i fwyta lolipop!
LOLIPOP 3 Iei! Pwy sy eisiau lolipop?
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio’r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- dysgu cân newydd
- dysgu partymau iaith newydd
- siarad am, a gofyn cwestiynau am y tywydd

Gweithgaredd 1
Sut mae’r tywydd heddiw?
Ydy hi’n heulog?
Darllena’r brawddegau isod am y tywydd. Wedyn tynna lun ar gyfer pob un i ddangos dy fod yn deall y frawddeg.

Enghraifft
Mae hi’n oer heddiw.

- Mae hi’n gymylog.
- Mae hi’n bwrw eira.
- Mae hi’n heulog.
- Mae hi’n niwlog.
- Mae hi’n bwrw glaw.

Gweithgaredd 2
Edrycha ar y lluniau isod a gofyna’r cwestiwn: Sut mae’r tywydd heddiw?
Ysgrifenna frawddeg sy'n ateb y cwestiwn ar gyfer pob llun. Cofia, mae’r atebion yn y lluniau.
Enghraifft

Sut mae'r tywydd?
Mae hi’n oer heddiw.


Gweithgaredd 3
Edrycha ar y lluniau isod a gofyna’r cwestiwn: ‘Ydy hi’n heulog heddiw?’ ar gyfer pob llun. Wedyn, ateba'r cwestiwn yn llawn, gan ddefnyddio 'ydy' neu 'nac ydy'. Bydd yr ateb yn dibynnu ar y llun.

__ Enghraifft__
'Ydy hi’n heulog heddiw?'
Nac ydy, dydy hi ddim yn heulog. Mae hi’n bwrw eira.



Video
Four lollipops sing about the weather.
Canu am y tywydd
HUFEN IÂ Hei, sut mae’r tywydd heddiw?
LOLIPOP 1 Ydy hi’n ddigon braf i ni fynd mas?
LOLIPOP 2 Cer i edrych!
PAWB Sut mae’r tywydd heddiw?
LOLIPOP 3 Heddiw mae hi’n wyntog,
Yn wyntog, wyntog, wyntog,
Fel hyn mae hi yn yr hydref.
Rhy wyntog i ni fynd mas!
HUFEN IÂ Hei, sut mae’r tywydd heddiw?
LOLIPOP 1 Ydy hi’n ddigon braf i ni fynd mas?
LOLIPOP 3 Cer i edrych!
PAWB Sut mae’r tywydd heddiw?
LOLIPOP 2 Heddiw mae hi’n rhewi,
Yn rhewi, rhewi, rhewi,
Fel hyn mae hi yn y gaeaf.
Rhy oer i ni fynd mas!
LOLIPOP 2 Brrr – mae hi’n bwrw eira hefyd!
LOLIPOP 1 Hei, sut mae’r tywydd heddiw?
LOLIPOP 2 Ydy hi’n ddigon braf i ni fynd mas?
LOLIPOP 3 Cer i edrych!
PAWB Sut mae’r tywydd heddiw?
HUFEN IÂ Heddiw mae hi’n niwlog,
Yn niwlog, niwlog, niwlog,
Mae hi dal i fod yn aeaf.
Dw i methu gweld trwy'r niwl!
LOLIPOP 2 Hei, sut mae’r tywydd heddiw?
LOLIPOP 3 Ydy hi’n ddigon braf i ni fynd mas?
HUFEN IÂ Cer i edrych!
PAWB Sut mae’r tywydd heddiw?
LOLIPOP 1 Heddiw mae hi’n glawio,
Glawio, glawio, glawio,
Fel hyn mae hi yn y gwanwyn.
Rhy wlyb i ni fynd mas!
LOLIPOP 2 Hei, sut mae’r tywydd heddiw?
LOLIPOP 3 Ydy hi’n ddigon braf i ni fynd mas?
HUFEN IÂ Dewch bawb i edrych!
PAWB Heddiw mae hi’n braf,
Yn braf, braf, braf,
Fel hyn mae hi yn yr haf.
Ni’n dwlu ar dywydd braf! Iei!
HUFEN IÂ W, mae hi mor heulog!
LOLIPOP 2 Mae hi mor boeth!
LOLIPOP 1 Y tywydd perffaith i fwyta lolipop!
LOLIPOP 3 Iei! Pwy sy eisiau lolipop?
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
- learn a new song
- learn new language patterns
- talk about, and ask questions about the weather

Activity 1
Sut mae’r tywydd heddiw? (How is the weather today?)
Ydy hi’n heulog? (Is it sunny?)
Read the sentences below about the weather. Then draw a picture of each one to show that you have understood the meaning of the sentence.

Example
Mae hi’n oer heddiw. (It is cold today.)

- Mae hi’n gymylog. (It is cloudy)
- Mae hi’n bwrw eira. (It is snowing)
- Mae hi’n heulog. (It is sunny)
- Mae hi’n niwlog. (It is foggy)
- Mae hi’n bwrw glaw. (It is raining)

Activity 2
Look at the pictures below and ask the question: Sut mae’r tywydd heddiw? (How is the weather today?).
Write a sentence to answer the question for each image. Remember, the answers are in the pictures.
Example

Sut mae'r tywydd?
Mae hi’n oer heddiw. (It is cold today.)


Activity 3
Look at the pictures below and ask the question: 'Ydy hi’n heulog heddiw?' (Is it sunny today?) for each picture. Then answer the question in full using 'ydy' or 'nac ydy'. The answer will depend on the picture.

Example
'Ydy hi’n heulog heddiw?' (Is it sunny today?)
Nac ydy, dydy hi ddim yn heulog. Mae hi’n bwrw eira. (No, it is not sunny. It is snowing.)



Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
