
Ffocws dysgu
Dysga sut i wahaniaethu rhwng ffeithiau a barn.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo am gi ar goll ar fferm
- dau weithgaredd
Learning focus
Learn how to distinguish between facts and opinions.
This lesson includes:
- one video
- two activities
For an English version of this lesson, scroll below.

Fideo
Mae criw o ffrindiau yn chwilio am eu ci sydd ar goll ar fferm.
Ci ar goll
DAN Dw i’n edrych ymlaen i weld yr anifeiliaid ar y fferm.
ELIN Dw i’n edrych ymlaen hefyd. Dydy Gel methu aros.
ALL Gel! Gel! Tyrd yn ôl.
ELIN O na! Mae Gel wedi diflannu.
DAN Sut ddown ni o hyd iddo?
IZZIE Mae’n rhaid cael y ffeithiau i ddod o hyd i Gel. Mae fy nhabled i’n gallu canfod ffeithiau a barn hefyd.
ELIN/DAN Ddown ni o hyd i Gel yn gyflym felly.
DAN Dw i’n meddwl bod Gel wedi blino. Mae’n siŵr ei fod o’n cysgu yn y cwt ieir.
ELIN Dw i’n anghytuno. Mae’r cwt ieir yn rhy fach i Gel fynd i mewn iddo.
IZZIE Roedd Dan yn mynegi barn ond roedd Elin yn cyflwyno ffaith. Mae hi’n gwybod bod Gel yn fwy na’r cwt ieir. Mae’n rhaid dilyn y ffeithiau i ddod o hyd i Gel.
DAN Hei, mae Gel yn hoffi mwd felly dw i’n credu mai fo yw hwnna.
ELIN Na. Dw i’n anghytuno. Mae gan Gel gynffon hir. Cynffon fer sy gan hwnna. Mochyn ydy o.
IZZIE Roedd Dan yn mynegi barn ond roedd Elin yn cyflwyno ffaith. Mae’n rhaid dilyn y ffeithiau i ddod o hyd i Gel.
DAN Yn fy marn i, ôl troed Gel ydy hwn. Beth wyt ti’n ei feddwl, Elin?
ELIN Dw i ddim yn siŵr. Ond dyma goler Gel.
IZZIE Mae’n rhaid dilyn y ffeithiau i ddod o hyd i Gel. A dyna fo. Mae o eisiau bod yn gi defaid!
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- deall a defnyddio geirfa arbennig, ee diflannu, canfod ffeithiau, anghytuno, mynegi barn, cyflwyno ffaith
- adnabod y gwahaniaeth rhwng ffaith a barn

Gweithgaredd 1
Ydy'r brawddegau yn dangos barn neu ffaith?

Gweithgaredd 2
Rho’r geiriau yn y drefn gywir i ffurfio brawddeg.

Gweithgaredd 3
Argraffa'r chwilair er mwyn dod o hyd i'r geiriau yn y rhestr.

Video
Dan, Elin and Izzie look for Gel the dog, after he runs away on the farm.
Ci ar goll
DAN Dw i’n edrych ymlaen i weld yr anifeiliaid ar y fferm.
ELIN Dw i’n edrych ymlaen hefyd. Dydy Gel methu aros.
ALL Gel! Gel! Tyrd yn ôl.
ELIN O na! Mae Gel wedi diflannu.
DAN Sut ddown ni o hyd iddo?
IZZIE Mae’n rhaid cael y ffeithiau i ddod o hyd i Gel. Mae fy nhabled i’n gallu canfod ffeithiau a barn hefyd.
ELIN/DAN Ddown ni o hyd i Gel yn gyflym felly.
DAN Dw i’n meddwl bod Gel wedi blino. Mae’n siŵr ei fod o’n cysgu yn y cwt ieir.
ELIN Dw i’n anghytuno. Mae’r cwt ieir yn rhy fach i Gel fynd i mewn iddo.
IZZIE Roedd Dan yn mynegi barn ond roedd Elin yn cyflwyno ffaith. Mae hi’n gwybod bod Gel yn fwy na’r cwt ieir. Mae’n rhaid dilyn y ffeithiau i ddod o hyd i Gel.
DAN Hei, mae Gel yn hoffi mwd felly dw i’n credu mai fo yw hwnna.
ELIN Na. Dw i’n anghytuno. Mae gan Gel gynffon hir. Cynffon fer sy gan hwnna. Mochyn ydy o.
IZZIE Roedd Dan yn mynegi barn ond roedd Elin yn cyflwyno ffaith. Mae’n rhaid dilyn y ffeithiau i ddod o hyd i Gel.
DAN Yn fy marn i, ôl troed Gel ydy hwn. Beth wyt ti’n ei feddwl, Elin?
ELIN Dw i ddim yn siŵr. Ond dyma goler Gel.
IZZIE Mae’n rhaid dilyn y ffeithiau i ddod o hyd i Gel. A dyna fo. Mae o eisiau bod yn gi defaid!
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
- understand and use specific vocabulary, eg diflannu, canfod ffeithiau, anghytuno, mynegi barn, cyflwyno ffaith (to disappear, find facts, to disagree, express an opinion, present a fact)
- recognise the difference between fact and opinion

Activity 1
Do the sentences show opinion (barn) or fact (ffaith)?

Activity 2
Put the words in the correct order to form a sentence.

Activity 3
Print the word search and find the words in the list.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11


