Beth yw ymchwil?

Part ofLearn & revise

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Un fideo gan athrawes yn egluro beth yw gwaith ymchwil
  • Un cyflwyniad yn egluro beth yw ymchwil
  • Dau weithgaredd i ddysgu mwy am sut i wneud ymchwil da

Lesson content

  • One video by a teacher explaining how to carry out research
  • One introduction on how to carry out research
  • Two activities to learn how to research well
Llinell / Line

Y broses ymchwil

Ystyr y gair ymchwil yw astudio rhywbeth yn ofalus er mwyn cael hyd i wybodaeth newydd i'w chyflwyno mewn darn ysgrifenedig neu mewn araith.

Llinell / Line

Fideo / Video

Gwylia athrawes Gymraeg yn egluro beth yw gwaith ymchwil a pham ei fod yn bwysig.

Nodiadau ar gyfer rhieni

Ar ôl gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:

  • deall beth yw gwaith ymchwil
  • deall am bwysigrwydd gwaith ymchwil
  • dysgu sut i fynd ati i wneud gwaith ymchwil

Notes for parents

After watching the video, students will be able to:

  • understand what research is
  • understand the importance of research
  • learn how to carry out research
Llinell / Line

Ymchwil ar-lein

Lle da i gychwyn gyda gwaith ymchwil yw ar-lein. Mae ymchwil ar-lein yn gallu ymddangos yn dasg enfawr, ond drwy ddysgu sut i'w wneud yn effeithiol, gelli di arbed amser a gwaith.

Mae’r camau canlynol yn egluro un dull o wneud hyn:

  • penderfynu pa fath o ymchwil rwyt ti eisiau ei wneud
  • dewis geiriau chwilio yn ofalus
  • penderfynu ynglŷn â’r math o ffynhonnell
  • bod yn drylwyr - paid â dibynnu ar y wybodaeth o'r dudalen gyntaf yn unig

Ffynonellau eraill

Gall ffynonellau ymchwil eraill gynnwys:

  • blogiau
  • fforymau a safleoedd trafod
  • safleoedd adolygu cynnyrch

Ond gan nad wyt ti'n adnabod y bobl sydd wedi ysgrifennu rhain, elli di ddim wastad ymddiried yn y ffynonellau hyn gymaint. Cofia felly fod yn drylwyr wrth wneud dy ymchwil.

Pan wyt ti'n chwilio ar-lein, edrycha ar ganlyniadau sy'n ymddangos ar fwy nag un dudalen, yn hytrach na dibynnu ar y wybodaeth sy'n ymddangos ar y dudalen gyntaf yn unig.

Os nad wyt ti wedi darganfod y wybodaeth sydd ei hangen arnat ti ar y we, gall ffynonellau ymchwil eraill gynnwys:

  • llyfrau
  • cylchgronnau
  • ffrindiau a theulu
Llinell / Line

Gweithgaredd 1 / Activity 1

Mae dy athro dosbarth wedi gofyn y canlynol i ti:

“Hoffwn i dderbyn traethawd byr gennyt ti sy’n cyflwyno gwybodaeth ac ymchwil am gynhesu byd eang a’r hyn sydd yn ei achosi. Rydw i eisiau i ti gyflwyno ffeithiau a barnau eraill yn dy draethawd, a defnyddio mwy nag un ffynhonnell ar gyfer dy ymchwil.”

Ateba’r cwestiynau canlynol am dy dasg:

  • Beth yw testun dy ymchwil?
  • Pa eiriau wyt ti am eu defnyddio i chwilio am wybodaeth?
  • Pa ffynonellau sydd ar gael i ti ddefnyddio ar gyfer dy ymchwil?
  • Pa fath o ffynonellau byddai’n cynnig ffeithiau yn unig i ti?

Clicia yma i weld yr atebion i'r dasg ymchwil ar gynhesu byd eang a'r achosion

Llinell / Line

Gweithgaredd 2 / Activity 2

Dewis geiriau chwilio’n ofalus.

Mae Anna wedi bod yn ymchwilio ar y we am wybodaeth ar gyfer ei gwaith cwrs hi. Mae’n rhaid iddi hi ysgrifennu erthygl sy’n trafod y cwestiwn canlynol:

‘Ydy ffonau symudol yn dinistrio bywydau pobl ifanc?’

Dyma’r termau chwilio mae Anna wedi eu defnyddio hyd yma:

  • “ffonau symudol”
  • “pobl ifanc”
  • “ffonau pobl ifanc”

Nid yw Anna wedi meddwl am ei thestun ymchwilio, na dewis ei geiriau chwilio’n ofalus, ac felly mae’r tudalennau sy’n ymddangos sy’n amherthnasol i’w hymchwil hi. Mae hyn yn gwastraffu llawer o amser ac ymdrech.

Pa dermau chwilio byddai’n well ar gyfer ymchwil Anna?

Clicia yma i weld pa dermau chwilio byddai'n well ar gyfer gwaith ymchwil Anna

Hafan BBC Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan BBC Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU