
Ffocws dysgu
Dysga sut i ddefnyddio iaith sy’n briodol ar gyfer ysgrifennu, gan gynnwys Cymraeg safonol.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- pedwar gweithgaredd
Learning focus
Learn how to use language appropriate to writing, including standard forms of Welsh.
This lesson includes:
- four activities

For an English version of this lesson, scroll below.
Pethau i helpu’r bardd
Pan fyddi di’n ysgrifennu barddoniaeth, cofia ddefnyddio iaith amrywiol ac addas. Dyma rai syniadau i dy helpu:
- berfau
- adferfau
- ansoddeiriau
- cymhariaeth
- trosiadau
- personoli
- cyflythrennu
Berfau
Berf yw gair sy'n disgrifio beth mae rhywun neu rywbeth yn ei wneud, er enghraifft:
- cerdded
- neidio
- llusgo

Gweithgaredd 1
Darllena'r gerdd 'Pêl-droed' isod. Sawl berf wyt ti’n gweld yn y gerdd hon? Gwna restr ar ddarn o bapur neu yn ddigidol.

Pêl-droed
Rhedeg, pasio,
gwibio, taclo,
bloeddio, gwylltio,
trio eto.
Rhedeg, pasio,
gweiddi, gwylio,
neidio, cicio,
yna… sgorio!


Adferfau
Adferf yw gair sy'n disgrifio berfau, er enghraifft:
- rhedeg yn gyflym
- hedfan yn uchel
- siarad yn dawel

Gweithgaredd 2
Beth am ychwanegu adferfau at y berfau isod? Cofia ei fod yn bwysig bod y berfau a’r adferfau’n cysylltu gyda’i gilydd er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud synnwyr!
Er enghraifft: rhedeg yn gyflym.
rhedeg…
pasio…
taclo…
bloeddio…
trio…

Ansoddeiriau
Ansoddair yw gair sy'n disgrifio enw, er enghraifft:
- ton enfawr
- cymylau gwynion
- llewod rheibus
- bachgen da
- merch dalentog
Cymhariaeth
Mae cymhariaeth yn cymharu rhywbeth â rhywbeth arall er mwyn creu effaith arbennig. Mae bardd yn aml yn defnyddio cymhariaeth er mwyn tanlinellu, pwysleisio neu dynnu sylw at rywbeth arbennig
Chwilia am y geiriau ‘fel’, ‘megis’, neu ‘mor … â …’ / ‘mor … ag …’ i dy helpu di i adnabod cymariaethau, er enghraifft:
yn araf fel malwen / malwoden
yn gryf fel ceffyl
yn ddistaw fel llygoden
coch fel y tân
mor oer â rhew
mor ddu â'r nos
mor felys ag afal
megis seren wib

Gweithgaredd 3
Darllena'r llinellau nesaf o farddoniaeth. Wyt ti'n gwybod ble mae'r cymariaethau? Gwna nodyn ar ddarn o bapur, neu yn ddigidol.
Y lleuad yn bêl lachar yn y düwch
Fel dafad golledig yn crwydro'n unig
Yr haul yn dân poeth ar fy nghroen
A'r hen ddrws yn gwichian fel llygoden
Y coed yn filwyr tal a balch

Trosiadau
Mae trosiad yn dweud bod rhywbeth yn rhywbeth arall. Mae bardd yn gallu dweud bod rhywbeth yn rhywbeth arall o bryd i'w gilydd er mwyn creu delwedd effeithiol, er enghraifft:
- y coed yn filwyr tal
- y chwaraewr rygbi yn gawr o ddyn

Gweithgaredd 4
Darllena'r llinellau nesaf o farddoniaeth eto. Y tro yma, wyt ti'n gwybod ble mae'r trosiadau? Gwna nodyn ar ddarn o bapur, neu yn ddigiol.
Y lleuad yn bêl lachar yn y düwch
Fel dafad golledig yn crwydro'n unig
Yr haul yn dân poeth ar fy nghroen
A'r hen ddrws yn gwichian fel llygoden
Y coed yn filwyr tal a balch

Personoli
Mae bardd yn gwneud defnydd o bersonoli i ddisgrifio rhywbeth sydd ddim yn ddynol fel person byw, er enghraifft:
- dail yn sibrwd
- llawr yn gwichian
- tonnau yn cusanu'r traeth
Cyflythrennu
Cyflythrennu yw defnyddio dau air neu fwy sy’n dechrau â’r un llythyren ar ôl ei gilydd, er enghraifft:
- __d__awnsio __d__isgo __D__refach
- __b__isgedi __b__lasus __B__rycheiniog

Tips to help a poet
When you write poetry, remember to use varied and appropriate language. Here are some ideas to help you:
- verbs
- adverbs
- adjectives
- comparison
- metaphors
- personification
- alliteration
Verbs
A verb is a word that describes what someone or something is doing, for example:
- cerdded (to walk)
- neidio (to jump)
- llusgo (to drag)

Activity 1
Read the poem 'Pêl-droed' (Football) below. How many verbs can you see in the poem? Make a list on a piece of paper, or digitally.
Pêl-droed
Rhedeg, pasio,
gwibio, taclo,
bloeddio, gwylltio,
trio eto.
Rhedeg, pasio,
gweiddi, gwylio,
neidio, cicio,
yna… sgorio!
Football
Running, passing,
sprinting, tackling,
shouting, losing one's temper,
trying again.
Running, passing,
shouting, watching,
jumping, kicking,
then… scoring!


Adverbs
An adverb is a word that describes verbs, for example:
- rhedeg yn gyflym (running quickly)
- hedfan yn uchel (flying high)
- siarad yn dawel (speaking quietly)

Activity 2
Why not add adverbs to the verbs below? Remember it's important that the verbs and adverbs are related to each other to make sure they make sense!
For example: rhedeg yn gyflym (to run / running quickly)
rhedeg… (to run…)
pasio… (to pass…)
taclo… (to tackle…)
bloeddio… (to shout…)
trio… (to try…)

Adjectives
An adjective is a word that describes a noun, for example:
- ton enfawr (a huge wave)
- cymylau gwynion (white clouds)
- llewod rheibus (predatory lions)
- bachgen da (a good boy)
- merch dalentog (a talented girl)
Comparison
A comparison compares something with something else in order to create a certain effect. The poet often uses a comparison to highlight, emphasise or draw attention to something in particular.
Look out for the words ‘fel’ (as, like), ‘megis’ (like, similar to) or ‘mor … â …’ / ‘mor … ag …’(as …as …) to help you recognise comparisons, for example:
yn araf fel malwoden / malwen (as slow as a snail - literally: slow like a snail)
yn gryf fel ceffyl (as strong as a horse - literally: strong like a horse)
yn ddistaw fel llygoden (as quiet as a mouse - literally: quiet like a mouse)
coch fel y tân (as red as fire - literally: red like the fire)
mor oer â rhew (as cold as ice)
mor ddu â'r nos (as black as night - literally: as black as the night)
mor felys ag afal (as sweet as an apple)
megis seren wib (like a shooting star)

Activity 3
Read the lines below. Do you know where the comparisons are? Make a note on a piece of paper, or digitally.
Y lleuad yn bêl lachar yn y düwch
Fel dafad golledig yn crwydro'n unig
Yr haul yn dân poeth ar fy nghroen
A'r hen ddrws yn gwichian fel llygoden
Y coed yn filwyr tal a balch
The moon is a bright ball in the blackness
Like a lost sheep wandering alone
The sun is a hot fire on my skin
And the old door squeaks like a mouse
The trees are tall and proud soldiers

Metaphors
A metaphor says that a thing is something else. The poet can say that something is something else sometimes in order to create an effective image, for example:
- y coed yn filwyr tal (the trees are tall soldiers)
- y chwaraewr rygbi yn gawr o ddyn (the rugby player is a giant of a man)

Activity 4
Read the lines below again. This time, do you know where the metaphors are? Make a note on a piece of paper, or digitally.
Y lleuad yn bêl lachar yn y düwch
Fel dafad golledig yn crwydro'n unig
Yr haul yn dân poeth ar fy nghroen
A'r hen ddrws yn gwichian fel llygoden
Y coed yn filwyr tal a balch
The moon is a bright ball in the blackness
Like a lost sheep wandering alone
The sun is a hot fire on my skin
And the old door squeaks like a mouse
The trees are tall and proud soldiers

Personification
A poet makes use of personification to describe something that isn't human as being a real live person, for example:
- dail yn sibrwd (leaves whispering)
- llawr yn gwichian (a floor squeaking)
- tonnau yn cusanu'r traeth (waves kissing the beach)
Alliteration
Alliteration means to use two or more words next to each other that start with the same letter, for example:
- __d__awnsio __d__isgo __D__refach (Drefach's disco dancing)
- __b__isgedi __b__lasus __B__rycheiniog (Breconshire's tasty biscuits)

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
