
Ffocws dysgu
Dysga sut i gaslgu a chofnodi data, dadansoddi data a dehongli canlyniadau.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- dau weithgaredd
Learning focus
Learn how to collect and record data, analyse data and interpret results.
This lesson includes:
- one video
- two activities

Fideo / Video
Ffyrdd o gasglu data yn effeithiol.
Ways of collecting data effectively.
JEFF Rhaid bod hwn yn record newydd.
Does neb erioed wedi colli cymaint o beli ar un twll.
Rydyn ni'n ymuno â Janine sydd ar y cwrs yn cyfweld â Seimon y Snichyn.
JANINE Diolch Jeff, mae'n rhaid i ni gasglu data ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd.
Snichyn, be sy'n digwydd?
PETE Wel, dwi wedi colli pedair pêl ar y twll hwn, ond rwy'n sicr bydd Pytiwr yn colli mwy!
JEFF Geiriau cryf gan Snichyn yn fanna. Well i ni gadw sgôr.
JANINE Cynnig cynta Pytiwr.
JEFF O, daw honna ddim yn ôl! Un bêl ar goll!
JANINE Ail gynnig!
JEFF O diar, pêl arall wedi ei cholli! O na! Mae wedi colli chwech mewn rhes !
JANINE O leia mae'n derbyn y peth yn dda Jeff!
JEFF Lwcus ein bod ni wedi recordio'r sgôr.
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio'r fideo bydd disgyblion yn:
- gwybod sut mae data yn cael ei recordio ar ffurf siart neu dabl
- deall sut i gofnodi mewn siart rhicbren
- gallu ymarfer gwneud siartiau rhicbren a chofnodi data yn eu hamser eu hunain
Notes for parents
After watching the video pupils will:
- know how data is recorded in a table or chart
- understand how to record data on a tally chart
- be able to practise making tally charts and record data in their own time

Data / Data
Ystyr ‘data’ yw ‘gwybodaeth’. Gelli di gasglu data drwy eu dangos mewn tablau, siartiau neu graffiau. Wedyn bydd hi’n haws darllen a deall y wybodaeth.
Mae’n bwysig darllen pob rhan o’r tabl, siart neu graff i ganfod beth mae’r wybodaeth yn ei dweud wrthyt ti.
'Data' means 'information'. You can collect data by showing it in tables, charts or graphs. It will make the information easier to read and understand.
It is important to read all the different parts of the table, chart or graph when you are working out what the information is telling you.

Gweithgaredd 1 / Activity 1
Tria'r gweithgaredd isod wrth lenwi’r cerdyn sgorio.
Llenwa’r cerdyn sgorio i ddangos bod Pytiwr wedi colli 5 pêl, Seimon wedi colli 3 pêl ac wedi cael sgôr 2 yn well na Pytiwr.
Try the activity below by filling in the score card.
Fill in the score card to show that Pytiwr has lost 5 balls, Seimon has lost 3 balls and has a score of 2 better than Pytiwr.

Gweithgaredd 2 / Activity 2
Edrycha dros y tabl isod yn ofalus ac wedyn ateba'r cwestiynau sy'n dilyn.
Look over the table below carefully and then answer the questions that follow.
| Chwaraewr / Player | Peli coll / Balls lost | Sgôr / Score |
|---|---|---|
| Tim | 5 | 8 |
| Siwan | 3 | 6 |
| Amy | 4 | 7 |
| Simon | 2 | 5 |
- Pwy sydd â'r sgôr uchaf? / Who has the highest score?
- Pwy sydd â'r sgôr isaf? / Who has the lowest score?
- Beth yw sgôr Amy? / What is Amy's score?
- Beth yw sgôr Tim? / What is Tim's score?
- Sawl pêl mae Simon wedi colli? / How many balls has Simon lost?
Clicia yma i weld yr atebion i'r cwestiynau. / Click here for the answers.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
