
Ffocws dysgu
Dysga am y symbol mathemategol ar gyfer adio.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- dau weithgaredd
Learning focus
Learn about the mathematical symbol for addition.
This lesson includes:
- one video
- two activities

Fideo / Video
Gwylia'r fideo i ddysgu am adio a'r symbolau yn ymwneud ag adio.
Watch the video to learn about addition and the symbols related to addition.
Sut i adio
Haia bois!
Sgynnoch chi ddigon o blwtoniwm ar gyfer eich peiriant newydd?
Wel, dan ni’n gallu gweithio hwnnw allan gyda help y symbol adio!
Dan ni’n defnyddio’r symbol adio pan dan ni angen adio un peth at y llall.
Er enghraifft…
…Mae gan Albert dri darn o blwtoniwm…
Ac mae dau ddarn o blwtoniwm gan Jerry.
Drwy ddefnyddio’r symbol adio, mae modd adio dau beth at ei gilydd i ddarganfod y cyfanswm.
Dyma’r hafalnod.
Mae ochr chwith yr hafalnod yn gyfwerth i’r ochr dde…mae gan y ddwy ochr yr un gwerth.
Mae dau adio tri yn hafal i bump darn o blwtoniwm.
Mae hynny’n ddigon ar gyfer y peiriant, tydy?
O… ym… oedd hynny fod i ddigwydd???
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- gwybod ystyr y symbol adio a'r hyn mae'n ei gynrychioli
- deall bod modd adio rhifau at ei gilydd wrth ddefnyddio'r symbol adio
- ymarfer adio rhifau syml drwy ddefnyddio'r wybodaeth yn y fideo
Notes for parents
After watching the video, pupils will be able to:
- know what the addition symbol is and what it represents
- understand that numbers can be added together using the addition symbol
- be able to practise adding simple numbers using the information from the video

Gweithgaredd 1 / Activity 1

Gweithgaredd 2 / Activity 2

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
