
Ffocws dysgu
Dysga sut i esbonio gwybodaeth a syniadau gan ddefnyddio geirfa briodol.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- dau weithgaredd
Learning focus
Learn how to express information and ideas by using appropriate vocabulary.
This lesson includes:
- one video
- two activities
For an English version of this lesson, scroll below.

Fideo
Mae Rav a Carter yn defnyddio lleoedd a mannau cyfarwydd i ddosbarthu parsel.
Dosbarthu parsel
RAV Helo, siop anrhegion. Rav yn siarad.
MRS JONES Shwmai? Mrs Jones sy’ ’ma. Allwch chi anfon y parsel wnes i archebu plîs?
RAV Wrth gwrs. Ble ydych chi’n byw, Mrs Jones?
MRS JONES Dw i’n byw yn rhif un, Stad Erw Las.
RAV Dw i ddim yn gwybod ble mae Stad Erw Las. Sut mae cyrraedd Stad Erw Las?
MRS JONES Ewch heibio Mynydd Bach yna trowch i’r dde.
Ewch i lawr y ffordd a heibio Traeth Aur.
Trowch i’r chwith. Mae pwll nofio mawr yno.
Mae eglwys gyferbyn â’r pwll nofio mawr.
Mae Stad Erw Las y tu ôl i’r eglwys.
RAV Diolch, Mrs Jones.
Carter, cer â’r parsel yma i dŷ Mrs Jones plîs.
CARTER Ble mae hi’n byw?
RAV Fe gei di’r cyfarwyddiadau ar y ffordd.
Cer heibio Mynydd Bach a thro i’r dde.
Cer i lawr y ffordd a heibio Traeth Aur.
Tro i’r chwith. Mae pwll nofio mawr yno.
Mae eglwys gyferbyn â’r pwll nofio mawr.
Mae Stad Erw Las y tu ôl i’r eglwys.
CARTER Stad Erw Las?
RAV Mae Mrs Jones yn byw yn rhif un.
CARTER Dw i’n byw yn rhif un!
Mam. Mae Rav yn anfon hwn i ti.
MRS JONES I Gel mae e. Pen-blwydd hapus!
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- deall a defnyddio geirfa arbennig, ee anfon, dde, chwith, pwll nofio, eglwys, gyferbyn
- strwythuro brawddeg gan ddefnyddio patrymau megis, Ble ydych chi'n…? Sut mae…? Ble mae…?

Gweithgaredd 1
Llusga'r enwau at y map.

Gweithgaredd 2
Llusga'r geiriau at y brawddegau cywir.

Video
Rav and Carter look at familiar places to help them deliver a parcel.
Dosbarthu parsel
RAV Helo, siop anrhegion. Rav yn siarad.
MRS JONES Shwmai? Mrs Jones sy’ ’ma. Allwch chi anfon y parsel wnes i archebu plîs?
RAV Wrth gwrs. Ble ydych chi’n byw, Mrs Jones?
MRS JONES Dw i’n byw yn rhif un, Stad Erw Las.
RAV Dw i ddim yn gwybod ble mae Stad Erw Las. Sut mae cyrraedd Stad Erw Las?
MRS JONES Ewch heibio Mynydd Bach yna trowch i’r dde.
Ewch i lawr y ffordd a heibio Traeth Aur.
Trowch i’r chwith. Mae pwll nofio mawr yno.
Mae eglwys gyferbyn â’r pwll nofio mawr.
Mae Stad Erw Las y tu ôl i’r eglwys.
RAV Diolch, Mrs Jones.
Carter, cer â’r parsel yma i dŷ Mrs Jones plîs.
CARTER Ble mae hi’n byw?
RAV Fe gei di’r cyfarwyddiadau ar y ffordd.
Cer heibio Mynydd Bach a thro i’r dde.
Cer i lawr y ffordd a heibio Traeth Aur.
Tro i’r chwith. Mae pwll nofio mawr yno.
Mae eglwys gyferbyn â’r pwll nofio mawr.
Mae Stad Erw Las y tu ôl i’r eglwys.
CARTER Stad Erw Las?
RAV Mae Mrs Jones yn byw yn rhif un.
CARTER Dw i’n byw yn rhif un!
Mam. Mae Rav yn anfon hwn i ti.
MRS JONES I Gel mae e. Pen-blwydd hapus!
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
- understand and use particular vocabulary, eg anfon, dde, chwith, pwll nofio, eglwys, gyferbyn (to send, right, left, swimming pool, church, opposite)
- structure a sentence using patterns such as, Ble ydych chi'n…? Sut mae…? Ble mae…? (Where do you…? How do you…? Where is…?)

Activity 1
Drag the names to the map.

Activity 2
Drag the words to the correct sentences.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
