
Ffocws dysgu
Dysga gymharu a rhoi rhifau yn eu trefn hyd at 10 o leiaf.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- un gweithgaredd
Learning focus
*Learn to compare and order numbers to at least 10. *
This lesson includes:
- one video
- one activity
Wedi ei chreu mewn partneriaeth â Twinkl.

Llinell rhif / Number line
Rydyn ni'n defnyddio llinell rhif er mwyn adio a thynnu rhifau.
A number line can be used to add and subtract.

Fideo / Video
Gwylia'r fideo a dysga sut i adio a thynnu wrth ddefnyddio llinell rhif.
Watch the video and learn to add and subtract using a number line.
Beth yw llinell rhif?
Mae llinell rhif yn ffordd wych i adio a thynnu.
Beth am edrych ar sut i ddefnyddio llinell rhif?
Yn gyntaf, beth am adio?
Felly, chwech adio tri i ddechrau.
Y rhif mwyaf yn gyntaf – achos bydd llai o gyfri yn y pen draw!
Wedyn rydyn ni’n cyfri tri.
Un. Dau. Tri.
Rydyn ni wedi glanio ar y rhif naw.
Felly naw yw’r ateb cywir.
Ond i dynnu, rwyt ti’n cyfri i lawr y llinell rhif.
Felly i weithio allan pump tynnu tri, rydyn ni’n dechrau ar bump ac yn cyfri lawr tri.
Un. Dau. Tri.
A’r ateb cywir yw dau.
Wyt ti’n gweld? Mae llinell rhif yn gallu dy gael di allan o unrhyw dwll!
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio’r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- deall bod angen dechrau gyda'r rhif mwyaf wrth adio dau rif
- adio rhifau syml wrth ddefnyddio llinell rhif
- tynnu rhifau syml ar linell rhif
Notes for parents
After watching the lesson, pupils will be able to:
- know to start with the highest number when counting two numbers
- add simple numbers using a number line
- subtract simple numbers using a number line

Gweithgaredd / Activity
Lawrlwytha'r llinell rhif isod o wefan Twinkl ac ateba'r cwestiynau isod.
Download the number line from the Twinkl website and answer the questions below.
Adio / Addition
1). 5 + 2 =
Dechreua ar rif 5 ac wedyn cyfri ymlaen 2 gam. Beth yw'r ateb?
Start on number 5 then count on 2 steps. What is the answer?
2). 5 + 4 =
Dechreua ar rif 5 ac wedyn cyfri ymlaen 4 cam. Beth yw'r ateb?
Start on number 5 then count on 4 steps. What is the answer?
3). 7 + 3 =
Dechreua ar rif 7 ac wedyn cyfri ymlaen 3 cham. Beth yw'r ateb?
Start on number 7 then count on 3 steps. What is the answer?
Tynnu / Subtraction
1). 8 - 2 =
Dechreua ar rif 8 ac wedyn cyfri yn ôl 2 gam. Beth yw'r ateb?
Start on number 8 then count back 2 steps. What is the answer?
2). 7 - 3 =
Dechreua ar rif 7 ac wedyn cyfri yn ôl 3 cham. Beth yw'r ateb?
Start on number 7 then count back 3 steps. What is the answer?
3). 10 - 6 =
Dechreua ar rif 10 ac wedyn cyfri yn ôl 6 cham. Beth yw'r ateb?
Start on number 10 then count back 6 steps. What is the answer?

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

