
Ffocws dysgu
Dysga sut i archwilio a gwneud defnydd addas o wahanol fathau o ysgrifennu ar sgrin i ryngweithio ag eraill, ee blogiau.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- dau weithgaredd
Learning focus
Learn to explore and use appropriately the different forms of writing on-screen to interact with others, eg blogs.
This lesson includes:
- one video
- two activities
For an English version of this lesson, scroll below.

Beth yw blog?
Dyddiadur personol ar-lein yw blog.
Pwrpas blog yw bod y person sy'n ysgrifennu'r blog yn trafod testun sydd o ddiddordeb mawr iddyn nhw.
Felly, mae blog yn gallu trafod unrhyw bwnc, ond dyma enghreifftiau o destunau poblogaidd:
- digwyddiad
- taith
- barn am bwnc penodol
- adolygu ffilm, cerdd, darn o gerddoriaeth neu lyfr
Iaith ac arddull blog
Mae'r rhan fwyaf o flogwyr yn defnyddio arddull anffurfiol wrth ysgrifennu, hynny yw y math o Gymraeg byddet ti'n ei defnyddio wrth siarad, neu mewn llythyr at ffrind neu mewn neges e-bost, ee:
- dw i/rwy'n
- chdi
- bant
Gan amlaf, mae angen ysgrifennu yn y person cyntaf, ee:
- fi
- ni
Cadwa’r wybodaeth yn syml gyda brawddegau byr.
Dewisa deitl sy’n tynnu sylw ac sy’n crynhoi cynnwys y blog.
Defnyddia luniau lliwgar i gyflwyno gwybodaeth.
Ceisia wneud i dy flog edrych yn ddeniadol ac yn hawdd i’w ddarllen.
Dyma enghraifft o flog gwyliau. Mae'n cynnwys iaith ac arddull arferol blog, ond mae hefyd yn defnyddio lluniau a lliwiau deniadol i ddenu'r darllenwyr.


Fideo
Mae Erin yn awgrymu sut i wella blog Rhodri ac yn esbonio hanfodion blog da.
ERIN …a dyna pam bod y casgliad yma o ddillad mor ddiddorol, oherwydd … o, edrycha! Dyna brif leisydd band yr ysgol.
RHODRI Sion Paul.
SION Hei, Rhodri. Dw i'n hoffi’r lluniau ar dy flog.
ERIN Blog?
RHODRI Y blog dw i’n gofyn i ti edrych arno bob dydd. Rwyt ti’n dweud dy fod ti’n ei ddarllen o… mai dyna dy hoff flog di yn y byd i gyd? Mae o i gyd am Sion Paul. Ei holl gigs, ei holl ganeuon, beth mae o’n ei gael i frecwast…
ERIN Waw, mae gyda ti bron i ddau gant wedi tanysgrifio! Ond byddai fe’n gallu bod cymaint yn well. Ga' i awgrymu cwpl o bethau?
RHODRI Na chei.
ERIN Yn gyntaf, mae angen bach mwy o liw arnat ti. Rhywbeth i ddal llygaid y darllenwyr. Dy gynulleidfa. Tyrd i’w 'nabod nhw, a beth maen nhw eisiau ei ddarllen. Dw i’n meddwl dy fod ti’n defnyddio iaith braidd yn rhy ffurfiol. Edrycha ar dy benawdau di. Allen ni ei wneud e’n fwy bachog a chryno?
RHODRI Beth am: “Bŵm! Cân y flwyddyn, ta be?”
ERIN “Cân y Flwyddyn?” Iawn. Da iawn ti, Rhods. Hefyd, mae gyda ti ormod o glipiau a lluniau. Does dim eisiau i ti roi pob dim lan. Ond y peth pwysicaf yw dy fod yn cyflwyno gwybodaeth, neu’n mynegi barn. Mae e’n grêt bod yn bositif, ond mae angen rhoi dwy ochr y ddadl. Rwyt ti angen dweud pethau fel, ‘Yn fy marn i…’, ‘Rwy’n credu’n gryf…’. Wyt ti’n deall?
RHODRI Nac ydw.
ERIN O, Rhodri.
RHODRI Sori. Yn fy marn i… nac ydw.
ERIN Gad e i fi.
RHODRI Heb os nac oni bai, y sioe yn ffreutur yr ysgol amser cinio dydd Mawrth oedd y cyngerdd gorau erioed gan Sion Paul a’i fand. Gyda’u gallu cerddorol a’u geiriau gafaelgar sy’n mynd o nerth i nerth, pwy a ŵyr ble ân nhw yn y dyfodol? Eisteddfod yr ysgol? Eisteddfod y sir? Amser, yn wir, a ddengys.
ERIN Hoffi?
RHODRI Dw i ddim yn siŵr a wneith hyn weithio… Cant o danysgrifwyr ychwanegol mewn dwy funud!
ERIN Hawdd, on’d yw e? I ddweud y gwir, mae awydd gyda fi… beth wyt ti’n ei wneud?
RHODRI Dadlau. Mae rhywun wedi gadael sylwadau ar y blog. Rhag eu cywilydd nhw am gael barn wahanol i fi.
ERIN Mae’n rhaid i ti ddysgu sut i siarad gyda dy gynulleidfa. Y mwyaf o bobl sy’n ei ddarllen, y mwyaf o siawns sydd ‘na i ypsetio rhywun. Ond mae angen cadw’n cŵl. Cofia taw pobl go iawn ydyn nhw, Rhodri.
Rhodri?
RHODRI Hei!
ERIN Reit. Fy nhro i.
RHODRI Mae gen ti fwy o danysgrifwyr na fi? Yn barod?
ERIN Paid â chymryd y peth yn bersonol. Wedi’r cyfan…
RHODRI Aros am funud.
ERIN Beth?
RHODRI Mae blog Joseff yn gwneud yn well byth. Felly fedra' i ddilyn dy gyngor di… neu jest cynnwys llwyth o fideos o gathod?
ERIN Elli di wneud y ddau, sbo.
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio'r ffilm bydd disgyblion yn gallu:
- deall beth yw blog
- deall pa fath o iaith ac arddull i'w defnyddio mewn blog
- ysgrifennu blog yn hyderus, gan ddefnyddio iaith anffurfiol

Gweithgaredd 1
Mae angen defnyddio iaith anffurfiol wrth ysgrifennu blog.
Newidia’r brawddegau ffurfiol isod i Gymraeg anffurfiol, gan edrych yn benodol ar y ffurfiau berfol. Mae'r enghraifft gyntaf wedi ei gwneud yn barod.
| Cymraeg ffurfiol | Cymraeg anffurfiol | |
|---|---|---|
| Cerddaf i’r dref. | Dw i’n cerdded i’r dre'. | |
| Af allan i’r siop bob dydd. | ||
| Nid wyf yn hoffi mynd yn y car. | ||
| Nid oes gennym ni anifail anwes. | ||
| Cefais feic i fy mhen-blwydd. | ||
| Credaf fy mod yn eu hadnabod yn weddol dda. |

Gweithgaredd 2
Beth am fynd ati i ysgrifennu blog am wyliau arbennig? Cofia ysgrifennu'n anffurfiol ac mewn brawddegau byr, gan wneud yn siŵr fod y blog yn edrych yn ddeniadol.

What is a blog?
A blog is a personal online diary.
The purpose of a blog is that the person writing the blog discusses a topic they are interested in.
So, a blog can discuss any subject, but here are some examples of popular topics:
- an event
- a trip
- an opinion on a particular subject
- a review of a film, poem, piece of music or book
Language and style of a blog
Most bloggers use an informal style when writing. This is the kind of language you would use when speaking, or in a letter to a friend or an email, eg:
- dw i/rwy'n (I’m)
- chdi (you - dialect)
- bant (away - dialect)
Usually, you need to write in the first person, eg:
- fi (me)
- ni (us)
Keep the information simple and use short sentences.
Use a title that draws attention and summarises the contents of the blog.
Use colourful images to present information.
Try to make your blog look appealing and easy to read.
Here’s an example of a holiday blog. It includes the language and style you'd expect in a blog, but also uses striking images and colours to appeal to readers.

SUPER SUMMER
Sunday
Had enough? Come to Ceredigion!
The sun setting over Cardigan Bay. Wow – is there anywhere else quite like this?
Yes, the Caribbean Sea is warm and the resorts in Spain are bustling with life, but if you – like me – have had enough of queuing in airports, being squeezed into a cramped seat on a packed plane, and paying ridiculous prices for food and drink, then home is the place for you… no, not your bed, but the golden beaches of Cardigan Bay, watching dolphins playing in the water or canoeing as the sun sets.
Yes, it rains sometimes – as it did for us today – but that’s not all bad, especially when the ‘Cod a Sglods’ chip shop is right on your doorstep. Mmmmm!
TRAVEL. HAVE FUN. BLOG. LEARN.

Video
Erin suggests how to improve Rhodri's blog and explains what makes a good blog.
ERIN …a dyna pam bod y casgliad yma o ddillad mor ddiddorol, oherwydd … o, edrycha! Dyna brif leisydd band yr ysgol.
RHODRI Sion Paul.
SION Hei, Rhodri. Dw i'n hoffi’r lluniau ar dy flog.
ERIN Blog?
RHODRI Y blog dw i’n gofyn i ti edrych arno bob dydd. Rwyt ti’n dweud dy fod ti’n ei ddarllen o… mai dyna dy hoff flog di yn y byd i gyd? Mae o i gyd am Sion Paul. Ei holl gigs, ei holl ganeuon, beth mae o’n ei gael i frecwast…
ERIN Waw, mae gyda ti bron i ddau gant wedi tanysgrifio! Ond byddai fe’n gallu bod cymaint yn well. Ga' i awgrymu cwpl o bethau?
RHODRI Na chei.
ERIN Yn gyntaf, mae angen bach mwy o liw arnat ti. Rhywbeth i ddal llygaid y darllenwyr. Dy gynulleidfa. Tyrd i’w 'nabod nhw, a beth maen nhw eisiau ei ddarllen. Dw i’n meddwl dy fod ti’n defnyddio iaith braidd yn rhy ffurfiol. Edrycha ar dy benawdau di. Allen ni ei wneud e’n fwy bachog a chryno?
RHODRI Beth am: “Bŵm! Cân y flwyddyn, ta be?”
ERIN “Cân y Flwyddyn?” Iawn. Da iawn ti, Rhods. Hefyd, mae gyda ti ormod o glipiau a lluniau. Does dim eisiau i ti roi pob dim lan. Ond y peth pwysicaf yw dy fod yn cyflwyno gwybodaeth, neu’n mynegi barn. Mae e’n grêt bod yn bositif, ond mae angen rhoi dwy ochr y ddadl. Rwyt ti angen dweud pethau fel, ‘Yn fy marn i…’, ‘Rwy’n credu’n gryf…’. Wyt ti’n deall?
RHODRI Nac ydw.
ERIN O, Rhodri.
RHODRI Sori. Yn fy marn i… nac ydw.
ERIN Gad e i fi.
RHODRI Heb os nac oni bai, y sioe yn ffreutur yr ysgol amser cinio dydd Mawrth oedd y cyngerdd gorau erioed gan Sion Paul a’i fand. Gyda’u gallu cerddorol a’u geiriau gafaelgar sy’n mynd o nerth i nerth, pwy a ŵyr ble ân nhw yn y dyfodol? Eisteddfod yr ysgol? Eisteddfod y sir? Amser, yn wir, a ddengys.
ERIN Hoffi?
RHODRI Dw i ddim yn siŵr a wneith hyn weithio… Cant o danysgrifwyr ychwanegol mewn dwy funud!
ERIN Hawdd, on’d yw e? I ddweud y gwir, mae awydd gyda fi… beth wyt ti’n ei wneud?
RHODRI Dadlau. Mae rhywun wedi gadael sylwadau ar y blog. Rhag eu cywilydd nhw am gael barn wahanol i fi.
ERIN Mae’n rhaid i ti ddysgu sut i siarad gyda dy gynulleidfa. Y mwyaf o bobl sy’n ei ddarllen, y mwyaf o siawns sydd ‘na i ypsetio rhywun. Ond mae angen cadw’n cŵl. Cofia taw pobl go iawn ydyn nhw, Rhodri.
Rhodri?
RHODRI Hei!
ERIN Reit. Fy nhro i.
RHODRI Mae gen ti fwy o danysgrifwyr na fi? Yn barod?
ERIN Paid â chymryd y peth yn bersonol. Wedi’r cyfan…
RHODRI Aros am funud.
ERIN Beth?
RHODRI Mae blog Joseff yn gwneud yn well byth. Felly fedra' i ddilyn dy gyngor di… neu jest cynnwys llwyth o fideos o gathod?
ERIN Elli di wneud y ddau, sbo.
Notes for parents
After watching the video, pupils will be able to:
- understand what a blog is
- understand the type of language and style required in a blog
- confidently write a blog using informal language

Activity 1
You need to use informal language when writing a blog.
Change the formal sentences below to informal sentences in Welsh, and look specifically at the verbal forms. The first example has been done already.
| Formal Welsh | Informal Welsh | English meaning | |
|---|---|---|---|
| Cerddaf i’r dref. | Dw i’n cerdded i’r dre'. | I walk to town. | |
| Af allan i’r siop bob dydd. | I go out to the shop every day. | ||
| Nid wyf yn hoffi mynd yn y car. | I don't like going in the car. | ||
| Nid oes gennym ni anifail anwes. | We don't have a pet. | ||
| Cefais feic i fy mhen-blwydd. | I got a bike for my birthday. | ||
| Credaf fy mod yn eu hadnabod yn weddol dda. | I think I know them fairly well. |

Activity 2
How about having a go at writing a holiday blog? Remember to write in informal language and write in short sentences, and make sure that the blog looks attractive.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
