
Ffocws dysgu
Dysga ddefnyddio sgiliau rhif er mwyn adrodd rhifau ymlaen ac yn ôl.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- dau weithgaredd
Learning focus
Learn to use number skills to recite numbers, forwards and backwards.
This lesson includes:
- one video
- two activities

Fideo / Video
Gwylia'r brogaod yn dysgu sut i drefnu rhifau o 1 i 5.
Watch the frogs learn how to order numbers from 1 to 5.
O diar – does dim trefn arnoch chi o gwbl!
Beth am eich trefnu o 1 i 5, felly?
Pa un ohonoch chi di’r rhif lleiaf?
Reit – rhif 1 – ti sydd gyntaf.
Iawn ta, oherwydd mai ti ydy’r lleiaf, dos di i’r chwith.
Dw i’n sbïo arnat ti rhif 2. Symuda i’r lle cywir - ti’n fwy na rhif 1.
Reit – rhif 3 – ti’n fwy na 2, ac mae 4 yn fwy na rhif 3.
Dyna ti rhif 5 – ti di’r mwyaf.
Gwych! Dych chi gyd mewn trefn esgynnol, hynny yw, o’r lleiaf i’r mwyaf - o 1 i 5.
Neidia di i’r pen os wyt ti eisiau, ond mae 1 dal yn llai na 5.
Rhif 1 – os wyt ti wir eisiau bod ar yr ochr yna, beth am roi pawb yn y drefn ddisgynnol yn lle, hynny yw, o’r mwyaf i’r lleiaf.
Er dy fod ti ar y dde, rhif 1, rwyt ti dal yn llai na 2.
Hei! Peidiwch â drysu’r drefn! Yh, dim ots. Does dim pwynt dweud y drefn wrthych chi mae'n amlwg!
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio'r fideo, bydd y disgyblion yn gallu:
- deall y termau, yn 'fwy na' ac yn 'llai na'
- gwybod ystyr y termau 'trefn esgynnol' / 'trefn ddisgynnol'
- teimlo'n fwy hyderus wrth drefnu rhifau 1 i 5
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
- understand the terms, 'yn fwy na' (more than) and 'yn llai na' (less than)
- know the meaning of the terms, 'trefn esgynnol' (ascending order) and 'trefn ddisgynnol' (descending order)
- feel more confident in ordering numbers from 1 to 5

Gweithgaredd 1 / Activity 1
Llusga'r brogaod i'r drefn esgynnol, o'r rhif lleiaf i'r rhif mwyaf.
Put the frogs in ascending order, from the smallest to the biggest.

Gweithgaredd 2 / Activity 2
Rho'r cerrig mewn trefn, o un i bump.
Put the stones in order from one to five.

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
