
Ffocws dysgu
Dysga sut i ddefnyddio amrywiaeth o batrymau cystrawennol naturiol y Gymraeg a geirfa (gan gynnwys terminoleg) wrth siarad.
Mae'r wers hon yn cynnwys:
- un fideo
- tri gweithgaredd
Learning focus
Learn to develop your ability to use a wide range of natural Welsh syntax structures and vocabulary (including terminology) when speaking.
This lesson includes:
- one video
- three activities
For an English version of this lesson, scroll below.

Fideo
Mae Kasia angen benthyg arian er mwyn mynd ar reid yn y ffair.
Benthyg arian yn y ffair
KASIA Dw i’n dwlu ar reidiau ffair!
Dw i eisiau mynd ar Mellten ddeg gwaith! Cant gwaith!
IZZIE Faint mae o’n gostio i fynd ar Mellten?
DAN Pum punt y tro.
KASIA O! Dw i wedi anghofio fy arian!
Faint o arian sy’ gyda ti?
IZZIE Mae pump…deg…pymtheg…ugain punt gen i.
KASIA Ga i fenthyg dy arian os gweli di’n dda?
IZZIE Na chei neu bydda i ddim yn gallu mynd ar Mellten.
KASIA Wyt ti’n cynilo dy arian poced, Dan?
DAN Ydw. Mae pump…deg…pymtheg…ugain punt gen i ar hyn o bryd.
KASIA Ga i fenthyg ugain punt os gweli di’n dda?
DAN Wel…eh…
KASIA Dw i’n addo rhoi’r arian yn ôl dydd Llun.
DAN O, iawn.
KASIA Diolch. Galla i fynd ar Mellten un…dwy…tair…pedair gwaith nawr!
DAN O diâr. Mae Kasia’n sâl.
IZZIE Mae hi’n sâl fel ci.
KASIA Dyma dy arian yn ôl, Dan. Dw i ddim eisiau tro arall ar Mellten.
IZZIE Tyrd Dan! Tro ni rŵan!
Nodiadau i rieni
Ar ôl gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:
- deall a defnyddio geirfa arbennig, ee punt, pump, deg, pymtheg, ugain, cynilo
- strwythuro brawddeg gan ddefnyddio patrymau megis, Dw i eisiau…, Mae…gen i, Ga i fenthyg…?
- adnabod idiom, ee sâl fel ci

Gweithgaredd 1
Sawl papur £5 sy’n gwneud £25? Llusga’r nifer cywir o bapurau £5 i law Dan.

Gweithgaredd 2
Teipia’r rhif fel gair yn y blwch.

Gweithgaredd 3
Mae Dan angen benthyg arian. Faint mae'n costio i gael chwe thro ar Mellten?

Video
Kasia needs to borrow money in order to go on a ride in the fair.
Benthyg arian yn y ffair
KASIA Dw i’n dwlu ar reidiau ffair!
Dw i eisiau mynd ar Mellten ddeg gwaith! Cant gwaith!
IZZIE Faint mae o’n gostio i fynd ar Mellten?
DAN Pum punt y tro.
KASIA O! Dw i wedi anghofio fy arian!
Faint o arian sy’ gyda ti?
IZZIE Mae pump…deg…pymtheg…ugain punt gen i.
KASIA Ga i fenthyg dy arian os gweli di’n dda?
IZZIE Na chei neu bydda i ddim yn gallu mynd ar Mellten.
KASIA Wyt ti’n cynilo dy arian poced, Dan?
DAN Ydw. Mae pump…deg…pymtheg…ugain punt gen i ar hyn o bryd.
KASIA Ga i fenthyg ugain punt os gweli di’n dda?
DAN Wel…eh…
KASIA Dw i’n addo rhoi’r arian yn ôl dydd Llun.
DAN O, iawn.
KASIA Diolch. Galla i fynd ar Mellten un…dwy…tair…pedair gwaith nawr!
DAN O diâr. Mae Kasia’n sâl.
IZZIE Mae hi’n sâl fel ci.
KASIA Dyma dy arian yn ôl, Dan. Dw i ddim eisiau tro arall ar Mellten.
IZZIE Tyrd Dan! Tro ni rŵan!
Notes for parents
After watching the video, students will be able to:
- understand and use particular vocabulary, eg punt, pump, deg, pymtheg, ugain, cynilo (pound, five, ten, fifteen, twenty, to save)
- structure a sentence using patterns such as, Dw i eisiau…, Mae…gen i, Ga i fenthyg…? (I want…, I have…, Can I borrow…?)
- recognise an idiom, eg sâl fel ci (sick as a dog)

Activity 1
How many £5 notes make £25? Drag the correct number of £5 notes to Dan's hand.

Activity 2
Type the number as a word in the gap.

Activity 3
Dan needs to borrow money. How much does it cost to have six turns on Mellten?

Hafan BBC Bitesize
Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Cynnwys y tymor hwn
Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

TGAU
Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11
